S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enillydd cyfres goginio yn lansio llyfr ryseitiau

11 Mehefin 2012

Cafodd llyfr coginio arbennig iawn ei lansio yn Theatr S4C ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau, 7 Mehefin am 2.00pm.

Mae’r llyfr Cog1nio wedi’i gyhoeddi yn dilyn llwyddiant y gyfres o’r un enw sydd wedi ymddangos ar Stwnsh, gwasanaeth S4C i blant rhwng 8 a 13 oed.

Yn y gyfrol mae Anna Rees, enillydd y gyfres goginio yn rhannu pump o’i hoff ryseitiau, ynghyd â ryseitiau gan gogyddion adnabyddus a beirniaid y gyfres - Elin Williams (o Bant a la Cart, Caerdydd), y cogydd Aled Williams (o fwyty Cennin, Biwmaris) a chyflwynwraig y gyfres, Ellen Roberts yn eu plith.

Mae hefyd ryseitiau gan sêr y sgrin a’r byd chwaraeon - gan gynnwys Ioan Gruffudd, George North a Steffan Rhodri.

Roedd Anna Rees, sy’n 14 oed o Greigiau ger Caerdydd yn un o 20 o gogyddion ifanc o bob cwr o Gymru a gystadlodd am deitl y cogydd gorau yn y gyfres Cog1nio.

Roedd gofyn iddynt ddangos eu doniau yn y gegin drwy goginio ryseitiau eu hunain, yn ogystal ag ail greu prydau gan gogyddion proffesiynol - a hynny gyda phwyslais arbennig ar gynnyrch lleol a thymhorol.

Rhan o’r wobr i’r cogydd buddugol oedd cyhoeddi detholiad o’u ryseitiau personol yn y gyfrol.

Ymysg y rysetiau yn y llyfr mae cawl cyw iâr a nwdls Anna, a’i chacen gaws a sinsir, a wnaeth argraff fawr ar y beirniaid yn rownd derfynol y gystadleuaeth.

Meddai Anna: “Dwi wrth fy modd yn arbrofi gyda bwyd - efallai hoffwn i gael gyrfa fel cogydd pan fydda’ i’n hŷn. Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn gyfle ffantastig i ddysgu sgiliau newydd gan gogyddion proffesiynol.

“Mae wedi bod yn dipyn o sioc i ennill y gystadleuaeth, yn enwedig am fod y safon mor uchel. Mi fydd yn fraint gweld fy ryseitiau mewn print, ac mae'n gyffrous meddwl bod pobl yn coginio fy ryseitiau i adref yn eu ceginau!”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at gynhyrchu’r llyfr a fydd yn cael ei anfon at Ysgolion Uwchradd Cymraeg led led Cymru.

Meddai Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, a fydd yn rhan o’r lansiad,

“Mae’r gyfres a’r llyfr hwn yn arbennig yn ffordd wych o dynnu sylw’r genhedlaeth iau at fwyd a diod o safon uchel sy’n cael ei gynhyrchu ar garreg ein drws yma yng Nghymru.

“Yr hyn sydd yn amlwg hefyd yw fod yna dalent arbennig yma yng Nghymru ac mae’r gyfres wedi bod yn llwyfan ardderchog i arddangos cogyddion y dyfodol.

“Roedd hi’n braf iawn eu gweld yn defnyddio’u dychymyg, yn meddwl yn greadigol ac yn fwy na dim yn gweld bod manteision i ddefnyddio cynnyrch lleol, tymhorol ac iach.”

Bydd ail gyfres o Cog1nio i’w weld ar Stwnsh yn ystod 2013.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?