S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a Gŵyl Cerdd Dant yn cytuno i ymestyn cytundeb darlledu am ddwy flynedd arall

09 Tachwedd 2012

Mae S4C a Gŵyl Cerdd Dant Cymru wedi cytuno i ymestyn y cytundeb darlledu am ddwy flynedd ymhellach sy’n golygu y bydd gŵyl undydd fwyaf Cymru yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C hyd 2014.

Gwnaed y cyhoeddiad ar drothwy Gŵyl Cerdd Dant 2012 sy’n cael ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Sadwrn (10 Tachwedd).

Yr Ŵyl Cerdd Dant yw gŵyl gystadleuol undydd fwyaf Ewrop ac mae’n rhoi llwyfan i draddodiadau gwerinol Cymru bob blwyddyn.

Mae'r ŵyl - sydd yn cael ei chynnal bob mis Tachwedd yn y de a’r gogledd am yn ail flwyddyn - yn denu dros fil o gystadleuwyr i gymryd rhan mewn rhagor na 30 o gystadlaethau.

Mae S4C yn darlledu’r Ŵyl Gerdd Dant ers dros chwarter canrif ac mae’r rhan fwyaf o’r cystadlu yn cael ei dangos yn fyw ar y Sianel. Mae yna hefyd raglenni uchafbwyntiau a rhaglen yn dangos y gorau o gystadleuaeth Talwrn y Beirdd yr ŵyl.

Meddai Dewi Jones, Trefnydd yr Ŵyl Cerdd Dant, “Rwy’n falch iawn bod S4C yn cydnabod pwysigrwydd yr ŵyl fel digwyddiad diwylliannol o bwys cenedlaethol trwy ymroi i’w darlledu am ddwy flynedd arall.

“Rydym wedi cydweithio gyda’r Sianel ers blynyddoedd mawr ac mae’r ffaith bod y cystadlu yn digwydd yn llygad y camerâu a’r goleuadau yn ychwanegu at fawredd y digwyddiad. Mae wedi helpu’r ŵyl i ddatblygu’n llwyfan cenedlaethol teilwng ar gyfer ein traddodiad gwerin, gan gyrraedd miloedd lawer o wylwyr gartre’ yn ogystal â’r rhai sy’n mynychu’r ŵyl undydd.”

Dywedodd Geraint Rowlands, Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau S4C, ei fod yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda threfnwyr yr ŵyl 65 mlwydd oed am y blynyddoedd i ddod.

“Mae’n un o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn yn ddiwylliannol ac yn un o binaclau darlledu S4C yn nhymor yr hydref. Mae gwylwyr y Sianel yn mwynhau bwrlwm, cynnwrf ac asbri’r cystadlu mewn gŵyl lle mae llawer o’r perfformwyr yn bobl ifanc sy’n cael blas ar feistroli hen draddodiad,” meddai Gerant Rowlands.

Diwedd

Fe fydd Gŵyl Cerdd Dant Sir Conwy 2012 yn cael ei darlledu’n fyw ddydd Sadwrn 10 Tachwedd am 12.30pm, 4.45pm a 7.00pm ar S4C. Darlledir Talwrn Gŵyl Cerdd Dant Sir Conwy 2012 am 9.30pm Nos Wener 9 Tachwedd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?