22 Gorffennaf 2013
Mae Prif Weithredwr S4C wedi talu teyrnged i'r diwydiant darlledu yng Nghymru am dynnu at ei gilydd yn ystod cyfnod o galedi aruthrol. Fe wnaeth Ian Jones ei sylwadau mewn araith ar faes y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd – ond rhybuddiodd hefyd nad yw’r amseroedd caled i S4C a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru drosodd o bellffordd.
Fis diwethaf, fe gafodd S4C hwb ariannol wrth glywed na fydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn torri'r swm mae'n ei gyfrannu i gyllideb y Sianel ar gyfer 2015/16 – ond er hynny, fe fydd cyllideb S4C yn dal i leihau dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i'r setliad ariannol a gyhoeddwyd eisoes.
Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:
"Mae'r ffordd y mae'r diwydiant darlledu wedi tynnu at ei gilydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn arwydd grymus o’r pendantrwydd a'r weledigaeth sy'n bodoli. Mae hi wedi bod o galondid mawr i fi fel Prif Weithredwr y Sianel genedlaethol – bod ein partneriaid ni yn y sector cynhyrchu a'r diwydiannau creadigol yn ehangach wedi bod mor fentrus, mor hyblyg ac mor gefnogol yn ystod y cyfnod o gynni ariannol ry'n ni'n mynd drwyddo.
"Mae aelwyd darlledu Cymraeg yn ymestyn yn ehangach na chwmnïau'r diwydiannau creadigol ac S4C yn unig. Mae hi heddiw yn cynnwys cefnogwyr o bob rhan o fywyd Cymru. Ac mae hyn yn gyfle i ni ddiolch yn fawr iawn i bawb oedd mor gefnogol i S4C yn ystod ein hymdrechion lu i bwysleisio gwerth ein gwaith i Gymru - ei heconomi a'i diwylliant. Heb yr ymdrechion hynny, a heb y gefnogaeth anhygoel a gafwyd, mae'n bosib iawn y byddai S4C wedi wynebu toriadau llawer llymach dros y blynyddoedd nesaf. Mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i beidio â thorri ymhellach y swm mae'n ei gyfrannu i goffrau S4C fis diwethaf yn rhyddhad mawr ac yn galondid mawr i ni gyd.
"Mae ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015/16 yn hwb - ond dewch inni beidio â meddwl bod y dyddiau caled ar ben. Bydd y swm o arian sydd gan S4C yn dal i leihau dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i'r toriadau blaenorol - ac mae hynny'n golygu y bydd yr heriau mawr yn parhau.
"Beth bynnag a ddaw, dwi'n ffyddiog y byddwn ni'n gallu wynebu heriau'r dyfodol yn gryf gyda'n gilydd."
Diwedd