S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y deunaw dewr yn barod am sialens Y Plas

05 Awst 2013

Ddechrau Medi eleni bydd deunaw o unigolion dewr yn camu nôl i Gymru 1910 gan fyw, gwisgo, hamddena a gweithio fel pobl y cyfnod ym Mhlas Llanerchaeron yng nghyfres hanes byw gyntaf S4C.

Bydd cyfres Y Plas yn cychwyn ar S4C nos Sul 15 Medi am 8.30. Am dair wythnos wedyn cawn ddilyn hynt a helynt y criw mewn pedair rhaglen yr wythnos wrth iddynt ymdopi â bywyd mewn plasty Cymreig ym 1910.

Heddiw gall S4C ddatgelu pwy yw'r deunaw fydd yn ymddangos ar gyfres Y Plas:

Teulu Quick o Sir Gaerfyrddin fydd yn ymgartrefu yn ystafelloedd moethus Y Plas; Mandy a Dean Quick fydd Meistres y Tŷ a Phenteulu Y Plas, eu plant, Elicia sy'n 9 oed, Macsen sy'n 7 a Betsan sy'n 3 oed fydd plant Y Plas, a bydd eu mam-gu, Margaret Tobias, sef mam Mandy hefyd yn byw fel boneddiges ym Mhlas Llanerchaeron.

Gwilym Lloyd Davies o Sir Fôn fydd yn cadw trefn ar bawb wrth iddo gamu i esgidiau trwm Bwtler Y Plas; Elin Ifan o Fangor fydd Rheolwraig y Tŷ a Jasmine Wilson o Bontrhydfendigaid fydd yn gyfrifol am fwydo pawb wrth iddi dderbyn ffedog a swyddogaeth Cogyddes Y Plas.

Yn ymuno â nhw fel aelodau o'r gweithlu lawr grisiau fydd Fiona Haf Jones o Abergele; Aled Morgan Hughes o Langadfan; Dewi Preece o Gaerdydd; Ruth Evans o Gwm Gwendraeth sydd bellach yn byw yn Glangwili; Dan Skyrme o Gaerfyrddin sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd; Anna Jones o Groesoswallt; Gary Jones o'r Bala; Rowan Sarah Davies o Gaerfyrddin a Cathryn Davies o Gydweli.

Ond beth fydd rôl y bobl yma ym mywyd Y Plas? Wel, mi fydd rhaid iddyn nhw aros tan ddechrau’r gyfres ym mis Medi i gael gwybod beth yn union sydd o’u blaenau.

 

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:

“Ry’ ni yn chwilio am gyfresi a fydd yn herio ein cynulleidfa, yn cyflwyno adloniant ar un llaw, wrth addysgu ar y llall ac mae’r Plas yn sicr am wneud hynny.

“Mae criw brwd o gymeriadau lliwgar yn barod i fentro i mewn i'r plas - yn unigolion o dair oed hyd at 69 oed! - ac fe gawn gyfle i ymddiddori mewn cyfnod arbennig o hanes wrth eu gwylio yn byw, gweithio a hamddena fel y byddai pobol wedi gwneud mewn plasty Cymreig crand ym 1910.

“A hithau yn ganmlwyddiant ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf flwyddyn nesaf, mi fydd Y Plas yn dod â hanes y cyfnod cyn dechrau’r rhyfel yn fyw i ni fel gwylwyr. Felly yn lle agor llyfr llychlyd bydd y cwbl yn dod yn fyw o flaen ein llygaid, ac mae heriau’r cyfnod yn saff o greu teledu gwerth chweil!”

Meddai Rachel Evans, cynhyrchydd y gyfres:

‘Mae pob un o drigolion newydd Y Plas wedi dangos awch arbennig at yr her enfawr o’u blaenau. Ond dychmygwch fywyd ym 1910; dim peiriant golchi neu dractor, dim cyfrifiadur na theledu. I’r rhai fyny grisiau, bydd bywyd yn braf, ond i’r rhai o dan y grisiau, bydd hi’n stori go wahanol. Mi fydd y trigolion, a’r gwylwyr yn darganfod yn ddigon buan os yw byw a bod yn hanes y cyfnod yn ormod yng ngwres y gegin a gwaith caled y fferm.’

Noddir y gyfres gan Darganfod Ceredigion.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?