25 Mawrth 2014
Bydd manylion Wythnos Arloesi Digidol Cymru 2014 yn cael eu cyhoeddi'r wythnos hon mewn lansiad fydd yn cynnwys anerchiad arbennig gan un o arloeswr mwyaf blaengar y byd yn y maes digidol.
Bydd Cesar A. Hidalgo o'r Massachusetts Institute of Technology yn ymwelydd arbennig â'r lansiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Iau 27 Mawrth, sy'n dechrau am 5.00 y prynhawn.
Mae'r lansiad ar agor i'r cyhoedd ac fe fydd angen cofrestru o flaen llaw drwy gysylltu â Nia Evans ar nia.evans@s4c.co.uk neu 02920 741 460
Bydd y lansiad hefyd yn datgelu manylion rhai o weithgareddau Wythnos Arloesi Digidol Cymru 2014. Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 7 a 11 Gorffennaf a'i drefnu gan nifer o bartneriaid yn y sector greadigol a digidol yng Nghymru: S4C, BBC Cymru Wales, Cyngor Caerdydd gyda BAFTA Cymru, Llywodraeth Cymru, Nesta, Creative Skillset, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Asiantaeth Ffilm Cymru.
Mae'r digwyddiad yn ddilyniant i Wythnos Ddigidol Caerdydd a gynhaliwyd y llynedd, a ddenodd dros ddwy fil o bobl yn ystod yr wythnos.
Cesar A. Hidalgo yw pennaeth grŵp Macro Connections yn y MIT Media Lab, ym Massachusetts UDA. Mae ei waith diweddaraf yn defnyddio dyfeisiadau data mawr i ddadansoddi esblygiad diwylliant dynol dros bum mil o flynyddoedd. Cyn hynny, bu'n gweithio ar nifer o brosiectau amrywiol yn cynnwys casglu gwybodaeth dorfol ynghylch nodweddion deniadol (a llai deniadol) tirlun dinas, a hefyd dangos sut mae modd allforio data i ddarogan sefyllfa economaidd. Yn 2012 fe wnaeth cylchgrawn Wire Magazine ei gynnwys ymhlith y 50 o bobl sy'n fwyaf tebygol o newid y byd.
Diwedd
Nodiadau:
Lansiad Wythnos Arloesi Digidol Cymru 2014
Dydd Iau 27 Mawrth, 2014
RSVP: nia.evans@s4c.co.uk neu 02920 741 460 cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda
Gwahoddiad i'r wasg
Cyfle i gyfweld â Cesar A. Hidalgo a phartneriaid Wythnos Arloesi Digidol Cymru 2014
Lleoliad: Ystafell Siapan, Canolfan Mileniwm Cymru
Amser: 4:00
Ar agor i'r cyhoedd
Lleoliad: Ystafell Victor Salvi, Canolfan Mileniwm Cymru
Amser: 5.00 Cofrestru
5.30 Araith gan Cesar A. Hidalgo
6.15 Cyflwyniad gan grŵp Wythnos Arloesi Digidol Cymru
6.30 Lluniaeth a rhwydweithio