S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mwy o seiclo ar S4C – Traws-seiclo yn dod i'r sianel

08 Ionawr 2015

Mae'r gamp seiclo gyffrous Traws-seiclo (Cyclo-cross) yn prysur ennill ei phlwyf yng ngwledydd Prydain - a bydd S4C ymhlith y darlledwyr cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddangos uchafbwyntiau estynedig o rai o'r cystadlaethau mawr.

Fe fydd y sioe chwaraeon ddydd Sul Clwb yn dangos uchafbwyntiau Pencampwriaethau Traws-seiclo Ynysoedd Prydain ar brynhawn Sul 11 Ionawr, gyda chyfle o ganol yr wythnos ymlaen i weld mwy o'r rasio ar wefan Clwb, s4c.co.uk/clwb

Mae rasio Traws-seiclo yn debyg i rasio trawsgwlad ar gefn beic, gyda'r teiars tenau yn rasio'n gyflym trwy'r baw, rhwystrau diri a'r cystadlu'n danbaid.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C,

"Dyw Cyclo-cross ddim wedi cael y sylw mae'n ei haeddu yng ngwledydd Prydain, ond mae S4C am helpu i newid hynny. Mae'r gamp yn datblygu'n fwyfwy poblogaidd yng Nghymru a'r DU, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc, ac mae ein rhaglenni teledu fel Clwb a'n gwasanaeth ar-lein am adlewyrchu hynny. Mae uchafbwyntiau Traws-seiclo yn atgyfnerthu ein darpariaeth seiclo, sy'n cynnwys Le Tour de France, y Clasuron a nifer o gystadlaethau seiclo eraill."

Bydd Clwb ddydd Sul yn darlledu Pencampwriaeth Ynysoedd Prydain wrth i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn Y Fenni am y tro cyntaf er 2005.

Pencampwr y llynedd, Ian Field, sef y Prydeiniwr uchaf ar restr detholion Cwpan y Byd, fydd y ffefryn i amddiffyn ei goron yn ras y dynion gyda Liam Killeen, a gynrychiolodd Prydain yn y Beicio Mynydd yng Ngemau Olympaidd 2004, 2008 a 2012, hefyd ymysg y ffefrynnau.

Ond bydd digon o Gymry yn rasio hefyd, gyda Steven Roach, a gipiodd Pencampwriaeth Traws-seiclo Cymru yn Llanelwedd, ym mis Tachwedd yn gobeithio cyffroi'r dorf gartref.

Ac yn ras y merched bydd Ffion James, pencampwr Traws-seiclo Merched Cymru - a chwaer iau seren y byd trac, Becky - yn gobeithio mai hi fydd y Gymraes gyntaf i gipio'r Bencampwriaeth ers i Nicole Cooke ennill yn 2001.

Ond gyda Helen Wyman, sydd wedi ennill y Bencampwriaeth wyth gwaith yn y naw mlynedd diwethaf, hefyd yn rasio, bydd yn dalcen caled i James, agipiodd y Bencampwriaeth i ferched iau yn 2014.

Yn ogystal â'r beicio bydd Clwb yn dychwelyd i'r meysydd pêl-droed a rygbi wrth i'r Rhyl deithio i'r Drenewydd yn Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports gyda lle yn y chwech uchaf yn ddyheuad i'r ddau dîm.

Ac yn y Guinness Pro12 bydd 'na ddarbi Gymreig arall wrth i'r Dreigiau deithio i Stadiwm Liberty er mwyn herio'r Gweilch.

Ymunwch â Dylan Ebenezer a Geraint Hardy am holl newyddion a chyffro'r penwythnos chwaraeon am 12.30 brynhawn Sul.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?