S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ralïo+ yn dilyn Elfyn Evans bob cam o'r daith yn 2015

21 Ionawr 2015

 Bydd cyfres newydd Ralïo+ ar S4C yn dilyn campau'r gyrrwr ifanc o Ddolgellau, Elfyn Evans ymhob rali ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd 2015.

Bydd y gyfres nôl ar y sgrin o fewn rhaglen chwaraeon Clwb ddydd Sul 1 Chwefror gyda seremoni agoriadol y bencampwriaeth a’r rownd gyntaf ym Monte Carlo. Cyn hynny dangosir uchafbwyntiau Cymal Cyffro (Power Stage) y rali ym Monte Carlo ar Clwb ddydd Sul nesaf 25 Ionawr.

Hefyd bydd rhaglen Heno ar S4C nos Wener 30 Ionawr yn cynnwys eitem ar y rali a'r seremoni agoriadol - seremoni y bydd un o gyflwynwyr Heno, y gantores a chyfansoddwraig o Sir Fôn, Elin Fflur yn canu ynddi o flaen cynulleidfa enfawr o’r byd chwaraeon, y cyfryngau a byd busnes yn y Café de Paris, Casino Square, Monte Carlo.

Cyn diddanu’r gynulleidfa, bydd Elin yn cael ei gyrru o amgylch trac Grand Prix Fformiwla 1 Monaco gan Elfyn Evans yn yr M-Sport Ford Fiesta fydd e'n gyrru yn y bencampwriaeth gyda'i gyd-yrrwr Daniel Barritt.

Meddai Elin, "Dwi ddim yn siŵr beth sy'n fwya' cyffrous - cael canu yn y seremoni agoriadol neu gael fy ngyrru rownd y trac gan Elfyn. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn i’r ddau brofiad. Dwi'n hoff o yrru ac mae cael y cyfle o fynd yn gyflym mewn car rali gyda gyrrwr saff fel Elfyn wedi bod yn dipyn o uchelgais gen i. Byddai'n gwireddu dau freuddwyd mewn un diwrnod a dweud y gwir gan fod canu mewn lleoliad fel y Café de Paris hefyd yn uchelgais. Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn."

Mae Emyr Penlan, cynhyrchydd ac un o gyflwynwyr Ralïo+, yn hyderus y bydd 2015 yn flwyddyn fawr i Elfyn Evans a ddaeth yn wythfed ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd y llynedd. "Fe wnaeth Elfyn yn dda'r llynedd - ei flwyddyn gyntaf ym mhrif gategori’r bencampwriaeth ac fe gaiff e bob cyfle eleni," meddai Emyr.

"Fe enillodd Elfyn y Cymal Cyffro yn rali’r Almaen y llynedd, fe ddaeth yn bedwaredd mewn dwy rali a gorffennodd y flwyddyn drwy ddod yn bumed yn Rali Cymru GB. Ond blwyddyn o ddysgu ar y lefel uchaf oedd hi llynedd i Elfyn. Er hynny, fe gafodd e dipyn o lwyddiant a chwblhau bron bob rali yn y bencampwriaeth.

"Dwi’n siŵr y caiff e le ar y podiwm eleni drwy orffen yn y tri uchaf. Mae gydag e gyfle da i wella os wnaiff e gadw momentwm y llynedd. Bydd gwylwyr Ralïo+ yn cael y cyfle i'w ddilyn ymhob un o’r 13 rali yn y bencampwriaeth gan orffen unwaith eto gyda Rali Cymru GB ym mis Tachwedd."

Yn ogystal â dilyn pob rownd o Bencampwriaeth Rali'r Byd, bydd Ralïo+ yn dal i ddangos uchafbwyntiau ralio a chwaraeon moduro a beicio mwy lleol yn ystod y gyfres newydd.

Lowri Morgan yw cyd-gyflwynydd Ralïo+ gydag Emyr Penlan. Wyn Gruffudd yw'r sylwebydd a Howard Davies, cyn cyd-yrrwr y pencampwr ralio, Gwyndaf Evans, tad Elfyn Evans, yw dadansoddwr arbenigol y gyfres.

DIWEDD

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?