S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ioan yn dringo i'r brig mewn naw gŵyl

29 Ionawr 2015

 

Rydym wedi arfer gweld y bugail, Ioan Doyle yn dringo mynyddoedd; ond mae Ioan Doyle yn dringo i'r brig mewn sawl gŵyl ffilm hefyd.

Yn ddiweddar enillodd y ffilm ddogfen, Defaid a Dringo sy'n dilyn Ioan yn bugeilio a dringo wobr am y ffilm ddringo orau yng Ngŵyliau Ffilm Mendi, Bilbao, Sbaen.

Yn ystod y deunaw mis diwethaf mae'r rhaglen wedi ennill gwobrau mewn gŵyliau antur, dringo a mynydda mewn gwyliau ffilm yn Slofacia, Y Weriniaeth Tsiec, Canada, Awstria, Cumbria, Ffrainc, Sbaen, Swistir, Yr Alban.

Mae'r ffilm ddogfen Defaid a Dringo, sydd wedi ei chynhyrchu gan Cwmni Da, yn dilyn Ioan Doyle yn ystod blwyddyn o'i fywyd - sy'n cynnwys ei ymdrechion i barhau â'i yrfa ddringo a'i frwydr i sefydlu ei fusnes ei hun gyda'i gariad, Helen.

Ac mae modd gwylio Ioan mewn cyfres bresennol ar S4C, Blwyddyn y Bugail: Ioan Doyle bob nos Lun am 8:25. Yn ystod y gyfres hon byddwn yn dilyn blwyddyn gyntaf y bugail ifanc Ioan Doyle yn ffermio defaid yn y Carneddau ger Bethesda.

Yn y rhaglen nos Lun, 2 Chwefror am 8:25 byddwn yn gweld sut mae Ioan yn ymdopi gyda chyflwyno i dîm darlledu S4C o Sioe Llanelwedd 2014, ac yn ei weld yn dringo yn Ynys Owey, Donegal, Iwerddon. Mae cyfle i ail fwynhau'r rhaglenni eraill yn y gyfres ar Clic, ac mae modd gwylio'r rhaglen gydag isdeitlau Saesneg yn ogystal.

Dywed Llion Iwan, Comisiynydd Ffeithiol S4C;

"Mae llwyddiant y gyfres Defaid a Dringo yn deyrnged nid yn unig i’r ffermwr a'r dringwr ifanc ond hefyd i gymuned sy'n deall ac yn parchu’r dirwedd a'r anifeiliaid sydd yn rhoi bywoliaeth i’w pobl. Mae hefyd yn adlewyrchu safonau cynhyrchu uchel y cyfarwyddwr Alun Hughes, sydd wedi ennill llond trol o wobrau am raglenni fel Dringo i’r Eitha, ynghyd â’r gyfres hon, a’r cwmni cynhyrchu sydd wedi creu uchelfan go iawn yn amserlen y sianel."

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?