S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi cyfres newydd o 35 Diwrnod

02 Chwefror 2015

Wedi llwyddiant aruthrol y gyfres ddirgelwch 35 Diwrnod a ddarlledwyd ar S4C yn ystod gwanwyn y llynedd, mae S4C wedi cadarnhau y bydd ail gyfres o 35 Diwrnod.

Bydd y gyfres newydd yn dechrau eleni, ac yn yr un ffordd a'r gyfres gyntaf bydd yr ail gyfres yn llawn dirgelwch wrth i gorff marw gael ei ganfod.

Mae'r awduron arobryn, Siwan Jones a William Owen Roberts yn ôl i sgriptio'r ail gyfres fydd yn llawn dirgelwch, dau o awduron mwyaf blaenllaw Cymru. Gyda Siwan wedi ennill gwobr Rose d’or, a William wedi gwerthu nofelau mewn sawl iaith ac wedi mwynhau llwyddiant rhyngwladol. Y cwmni cynhyrchu Apollo (rhan o Boom Pictures Cymru) fydd yn cynhyrchu'r ddrama. Y tro hwn bydd y ddrama wedi ei lleoli mewn swyddfa yswiriant yng Nghaerdydd, swyddfa sy'n llawn brad a chelwyddau, a byddwn yn dilyn taith cymeriadau newydd dros 35 Diwrnod.

Enillodd y gyfres wobr grefft yn seremoni BAFTA Cymru y llynedd, yn ogystal â chael sawl enwebiad, yn cynnwys yr actor gorau i Matthew Gravelle, ac am yr awduron gorau. Bydd y gyfres newydd, fel y gyfres ddiwethaf yn digwydd dros wyth rhaglen.

 Dywed Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C,

"Roedd llwyddiant y fformat yn amlwg, gyda dau o awduron gorau Cymru yn cadw'r gwylwyr ar flaenau eu seddau trwy gymeriadau a'r straeon gafaelgar. Y tro hwn bydd y gyfres yn cyflwyno cymeriadau newydd sbon, pob un a'u gorffennol, cyfrinachau a'u dirgelwch, fydd yr un mor uchel eu proffil â’r gyfres ddiwethaf."

Yn y gyfres gyntaf roedd llu o wynebau amlwg yn chwarae rolau amrywiol, gan gynnwys Lois Jones fel y prif gymeriad Jan, a'r actor Matthew Gravelle oedd yn portreadu'r traws-wisgwr Patricia, bellach i'w weld yng nghyfres ddirgelwch ITV, Broadchurch am yr ail dro fel Joe Miller, sy'n aros i glywed ei dynged. Bydd y gyfres 35 Diwrnod yn dechrau ffilmio ym mis Mehefin.

Mae'r cloc yn tician yn nes at y gyfres, ac unwaith eto bydd corff, cyfrinachau, a llond stâd o amheuon. Bydd mwy o wybodaeth am y gyfres 35 Diwrnod i ddilyn.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?