S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Taith Blwyddyn Newydd i annog dysgwyr Cymraeg i Ddal Ati

13 Chwefror 2015

  Pa well adeg i ddysgu sgil newydd nag ar ddechrau'r flwyddyn newydd? Ac yn ystod mis Ionawr a Chwefror mae'r cyflwynydd a'r tiwtor Cymraeg, Nia Parry wedi bod ar daith i gwrdd â phobl sydd wedi gwneud adduned eleni i ddysgu siarad Cymraeg.

Cwmbrân a'r Bont-faen yw'r lleoliadau nesaf ar ei thaith, ble bydd hi'n rhannu ei chariad at yr iaith gyda'r dysgwyr yn y Canolfannau Cymraeg i Oedolion, ar ddydd Sadwrn 14 Chwefror.

Bydd hi'n ateb eu cwestiynau, yn rhannu cyngor ac yn rhoi hwb iddyn nhw fanteisio ar wasanaeth S4C ar gyfer dysgwyr, Dal Ati.

"Mae'r daith yma wedi codi fy nghalon," meddai Nia, sy'n cyflwyno'r rhaglenni Dal Ati ar S4C. "Yn yr Wyddgrug fe wnes i gwrdd â dros 80 o bobl oedd wedi gwneud adduned blwyddyn newydd i ddysgu Cymraeg ar gwrs 'Calan'. Ar ddechrau blwyddyn mae pobl yn dechrau meddwl am beth maen nhw eisiau ei gyflawni eleni – a be well na dysgu iaith, a gorau oll os mai'r iaith honno yw'r Gymraeg."

Ar ei thaith, mae Nia eisoes wedi ymweld â chanolfannau Cymraeg i Oedolion yn yr Wyddgrug, ym Mangor, ac yn Llanelli, ac mi fydd hi hefyd yn ymweld â Phontypridd yn dilyn ei hymweliad â Chwmbrân a'r Bont-faen.

"Mae'r sesiynau yn rhai hwyliog iawn, ac rydw i wedi cael fy nghyfareddu gan y dysgwyr yma sy'n rhoi o'u hamser a'u hegni i ddysgu iaith newydd, neu i adennill iaith maen nhw wedi colli. Mae'n ddiddorol siarad â nhw, a chael trafod gyda nhw am y broses o ddysgu," meddai Nia.

Mae rhaglenni Dal Ati ar gyfer dysgwyr Cymraeg canolradd neu lefel uwch, yn cael eu dangos ar S4C bob bore Sul rhwng 10.30 a 12.30. Yn ogystal, mae'r wefan a'r ap Dal Ati yn cynnig cymorth pellach fel geirfa, ac adnoddau ychwanegol.

A nawr, drwy ddefnyddio'r ap, gall dysgwyr o allu canolradd i uwch, wylio pennod o'r gyfres ddrama Nos Sul poblogaidd Gwaith/Cartref, a derbyn neges ar eu ffôn clyfar neu dabled gyda geiriau i'w cynorthwyo yn ystod y rhaglen.

Bydd y geiriau hyn yn ymddangos ar y ffôn ychydig eiliadau cyn cael eu dweud ar y sgrin, ac yn gymorth i ddysgu geiriau newydd. Y gobaith yw y bydd yn ehangu geirfa'r dysgwyr wrth iddyn nhw wylio un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, Gwaith/Cartref, a ddarlledir am 9:00 nos Sul. Neu'r ail ddarllediad bob nos Fawrth am, 10.30.

Dysgwch mwy am Dal Ati ar s4c.co.uk a gwyliwch y rhaglenni ar alw ar s4c.co.uk/clic

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?