S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Lleuad a'r Sêr yn disgleirio ym mrwydr Cân i Gymru 2015

07 Mawrth 2015

Y gân Y Lleuad a'r Sêr gan Elin Angharad ac Arfon Wyn sydd wedi ennill tlws Cân i Gymru 2015 S4C a'r wobr o £3,500.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar nos Sadwrn 7 Mawrth ym Mhafiliwn Môn, Gwalchmai am yr eildro a'i darlledu'n fyw ar S4C. Yn cyflwyno roedd y gantores a’r cyflwynydd teledu Elin Fflur, ynghyd â'r cyflwynydd teledu Trystan Ellis-Morris.

Cantores ifanc o bentref Gaerwen, Ynys Môn yw Elin Angharad. Wedi blwyddyn yn astudio theatr cerdd yn Efrog Newydd, mae bellach wedi dychwelyd i Gymru ac yn gobeithio astudio mewn coleg cerdd a drama'r flwyddyn nesaf.

"Caneuon o sioeau cerdd sy'n llonni fy mryd i fel arfer, ond mae'n fraint cael canu cân pop fel Y Lleuad a'r Sêr ac roedd cael cyfansoddi'r gân hefo Arfon Wyn o'r Moniars yn brofiad arbennig!" meddai Elin.

Mae Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C, yn llongyfarch pawb fu'n cymryd rhan; "Unwaith eto eleni, roedd safon y caneuon yn eithriadol o uchel, a llongyfarchiadau i’r holl berfformwyr am noson llawn egni a thalent. Ond dim ond un enillydd sydd, a’r gân honno ydy Y Lleuad a’r Sêr gan Elin Angharad ac Arfon Wyn. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar eu buddugoliaeth a phob lwc iddyn nhw yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon."

Yn cystadlu yn y rownd derfynol roedd wyth o ganeuon amrywiol: O'r Brwnt a'r Baw gan Darren Bolger; Cariad Pur gan Catrin Hopkins a Pheena; Y Llais gan Aled Evans; Tri Mis Yn Ôl gan Cai Morgan a Lewys Mann; Pluen Wen gan Neil Maliphant; Oes yn Ôl gan Sera Owen; Tynna Fi I'r Glaw gan Team Panda a Y Lleuad a'r Sêr gan Elin Angharad ac Arfon Wyn.

Ac wedi i'r beirniaid ddewis y pedair cân i berfformio eto yn y rownd uwchderfynol, fe roddwyd y dasg o ddewis enillydd yn nwylo'r gwylwyr drwy'r bleidlais ffôn. Roedd y bleidlais honno yn cyfri am hanner y marciau, gyda'r hanner arall yn cael ei phenderfynu gan aelodau'r rheithgor gwadd.

Ar y panel eleni roedd Aled Haydn Jones, y gantores amryddawn Caryl Parry Jones, y cyflwynydd radio Lisa Gwilym a'r hyfforddwr llais Euros Rhys Evans.

Ewch i wefan S4C - s4c.cymru/canigymru - i wrando ar bob un o'r caneuon fu'n cystadlu ar y noson, a gallwch wylio'r rhaglen eto yn ei chyfanrwydd ar S4C Clic, s4c.cymru/clic

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?