S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Carreg filltir i S4C wrth i gêm rygbi merched fynd yn fyd-eang

12 Mawrth 2015

   Bydd gêm rygbi merched Cymru v Iwerddon yn cael ei gweddarlledu'n fyw drwy'r byd ar wasanaeth ar-lein S4C, s4c.cymru. Dyma'r gêm ddiweddara yng nghystadleuaeth Chwe Gwlad y Merched, ac ma'r gic gynta am hanner dydd, ddydd Sul 15 Mawrth ar faes Sain Helen, Abertawe.

Dyma'r tro cyntaf i ddarllediad chwaraeon ar-lein gan S4C fynd yn fyd-eang, er i ddigwyddiadau eraill fel Y Sioe Frenhinol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, gael eu darlledu yn y fath fodd i'r byd i gyd cyn hyn.

Y sylwebaeth Saesneg fydd ar gael yn fyd-eang.

Dywed Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler, "Mae hon yn garreg filltir ddarlledu bwysig i S4C, am nad ydym ni wedi darlledu gêm rygbi i gynulleidfa drwy'r byd, ar-lein, o'r blaen. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gallu cynnig y fath ddarpariaeth ar gyfer gêm sydd mor bwysig, gan ei bod hi'n bosib y bydd merched Cymru yn cipio'r Goron Driphlyg ar ddiwedd y gêm. Rydym wrth ein bodd i groesawu gwylwyr o bedwar ban byd i fwynhau'r darllediad yma, a fydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg."

Mae S4C wedi cydweithio'n agos ag Undeb Rygbi Cymru a chynhyrchwyr y rhaglen, HMS, er mwyn sicrhau bod y darllediad yma ar S4C yn bosib.

Yn ogystal a'r darllediad byw, bydd uchafbwyntiau estynedig o'r gêm merched 6 Gwlad ar brif rhaglen chwaraeon S4C, Clwb.

Mae tîm merched Cymru wedi ennill dwy gêm hyd yma, gan guro pencampwyr y byd, Lloegr, a'r Alban hefyd, gan golli mewn gêm agos yn erbyn Ffrainc.

Bydd sylwebaeth y gêm ar gyfer y darllediad byw ar-lein gan Alun Jenkins a chyn-gapten a chefnwr Cymru, Non Evans yn y Gymraeg, gyda'r cyn chwaraewr rhyngwladol Andy Moore a Gemma Hallett yn rhoi'r sylwebaeth Saesneg.

Dywedodd Non Evans, "Dw i wrth fy modd i fod yn rhan o ddarllediad mor hanesyddol a gobeithio bydd tîm menywod Cymru yn gallu dangos i'r byd gystal ydyn nhw. Mae tîm merched Cymru wedi bod yn agoriad llygad y tymor hwn, yn enwedig wrth guro pencampwyr y byd, Lloegr. Roedden nhw'n anlwcus iawn i golli yn erbyn Ffrainc o flaen 12,000 o gefnogwyr angerddol. Dw i'n credu bod gan Gymru obaith realistig i godi'r Goron Driphlyg a thrwy hynny, mynd yn eu blaen i ddatblygu'n rym rhyngwladol sylweddol."

Mae'n benwythnos llawn dop o chwaraeon ar S4C, wrth i'r Sianel ddangos y gêm brynhawn Sadwrn hefyd, rhwng Cymru ac Iwerddon ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y RBS, ar raglen Y Clwb Rygbi Rhyngwladol (cynhyrchiad BBC Cymru Wales ar gyfer S4C).

Bydd rygbi rhyngwladol ar Clwb ddydd Sul hefyd, pan ddangosir gêm Lloegr dan 18 yn erbyn Cymru dan 18 yn Abertawe am 3.45pm (y gic gyntaf am 4.00pm). Mae hon hefyd yn gynhyrchiad SMS ar gyfer S4C.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?