S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Creative Skillset Cymru yn rhoi hwb gwerth £9 miliwn i'r diwydiannau creadigol gyda chefnogaeth S4C

18 Mai 2015

Mae Creative Skillset Cymru wedi cyhoeddi budd economaidd y cynllun Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol dros y pedair blynedd a hanner diwethaf – sef menter i gynnig hyfforddiant yn y maes creadigol er mwyn hybu diwydiant cystadleuol yng Nghymru.

Mae'r fenter, sy'n derbyn cefnogaeth gan S4C, wedi buddsoddi dros £2.35 miliwn mewn hyfforddiant ers sefydlu'r cynllun Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol yn 2011. Ac mae'n cael ei rhagamcanu y bydd effaith economaidd y cynllun hwn werth £9.3 miliwn erbyn 2020.

Meddai Catrin Hughes Roberts, Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C; "Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi cynllun sydd wedi dod â chymaint o fudd i'r diwydiant yng Nghymru. Mae sicrhau parhad sgiliau yn y maes yn rhywbeth mae S4C wedi ei gefnogi erioed, ac mae magu'r genhedlaeth nesaf o dalent yn hanfodol er mwyn i Gymru allu dal i greu, cynhyrchu ac allforio cynnwys o'r safon gorau. Mae ymrwymiad S4C i hyfforddiant a sgiliau yn parhau ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r diwydiant, TAC a sefydliadau addysg i gyflwyno'r cyfleoedd a'r adnoddau sydd eu hangen i gynnal diwydiant cryf sy'n ffynnu."

Yn ystod pedair blynedd a hanner y cynllun Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol mae dros 975 o gyflogwyr a gweithwyr llawrydd wedi derbyn hyfforddiant mewn meysydd yn amrywio o gynhyrchu i gyfarwyddo, busnes a chyllid, i greu apiau.

Roedd Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C, Catrin Hughes Roberts yn un o'r partneriaid fu'n annerch cynrychiolwyr o'r diwydiant, y sector hyfforddi a'r cwmnïau sydd wedi elwa o'r cynllun mewn digwyddiad yng Nghaerfyrddin heddiw. Yn arwain y digwyddiad i nodi llwyddiant y cynllun roedd Julie James, Is Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Llywodraeth Cymru a Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru a Chadeirydd Creative Skillset Cymru.

Meddai Gwawr Thomas, Cyfarwyddwr Creative Skillset Cymru; "Mae'n angenrheidiol ein bod ni'n parhau i gefnogi datblygiad y diwydiannau creadigol a gyrru yng Nghymru. Yn adeiladu ar lwyddiant y cynllun Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol, ein nod yw parhau â'r gwaith gyda'r Llywodraeth Cymru a'r sector yng Nghymru i sicrhau cefnogaeth bellach i fuddsoddi yn nyfodol y diwydiannau creadigol yma."

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

Mae mwy o wybodaeth am Creative Skillset Cymru a'r cynllun Sgiliau ar gyfer Economi Ddigidol ar gael yma: http://creativeskillset.org/nations/wales/skills_for_the_digital_economy

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?