S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Wyth seren yn bwyta, cysgu ac yn dysgu Cymraeg ar Cariad@Iaith 2015

26 Mai 2015

  Saith niwrnod, wyth cystadleuydd, dau gyflwynydd ac un iaith. Dros gyfnod o wythnos, bydd wyth o sêr Cymreig yn ceisio dysgu Cymraeg hyd eithaf eu gallu, ac eleni, mi fydd Canolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth yn cael ei thrawsnewid i ystafell ddosbarth arbennig iawn.

Gall S4C ddatgelu mai'r criw enwog eleni fydd yn bwyta, yfed, cysgu ac yn byw'r iaith Gymraeg ac yn wynebu gweithgareddau awyr agored amrywiol fydd Derek Brockway, Rebecca Keatley, Chris Corcoran, Jamie Baulch, Nicola Reynolds, Steve Spears, Caroline Sheen a Tom Shanklin.

Bydd Cariad@Iaith eleni'n cael ei chyflwyno am y tro cyntaf eleni gan y canwr opera Wynne Evans ynghyd â'r bytholwyrdd Nia Parry, gyda rhaglen rhagflas arbennig i'w gweld nos Sul 14 Mehefin am 8.00 ar S4C gyda rhaglenni nosweithiol yn cael eu darlledu bob nos am 8.25 a 9.30 gyda'r ffeinal nos Sadwrn 20 Mehefin.

Mae Derek Brockway yn un o wynebau mwyaf adnabyddus ar deledu Cymru, ac mae wedi cyflwyno'r tywydd ar BBC Wales Today am ddeunaw mlynedd. Mae Derek yn dod o'r Barri yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw ar gyrion Caerdydd. Mae hefyd yn cyflwyno'r gyfres Weatherman Walking.

Bydd Rebecca Keatley yn wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr iau fel cyflwynydd ar wasanaeth plant CBeebies y BBC. Yn wreiddiol o Bort Talbot, mae Rebecca'n byw yn Llundain lle mae'n cyflwyno rhaglenni fel Let's Play ar y sianel.

Digrifwr a chyflwynydd radio yw Chris Corcoran sy'n cyflwyno ei raglen ei hun ar BBC Radio Wales ar brynhawniau Sadwrn. Mae Chris wedi cefnogi Rob Brydon ar daith ac wedi ymddangos ar nifer o raglenni comedi ar deledu a radio. Cyn troi at fyd comedi, roedd yn athro yn Ysgol Gyfun y Barri.

Am 15 mlynedd, roedd Jamie Baulch yn un o eiconau'r byd athletau, ac mae wedi ennill 11 o fedalau yn y gemau Olympaidd, Gemau'r Gymanwlad a Phencampwriaethau Athletau'r Byd. Fe ymddangosodd yn ddiweddar ar raglen Jamie Baulch: Looking for my Birth Mum gan BBC Wales i gwrdd â'i fam enedigol am y tro cyntaf.

Ymddangosodd Nicola Reynolds o Bontypridd ar ein sgriniau'n gyntaf yn y ffilm Human Traffic a leolwyd yng Nghaerdydd. Ers hynny, mae wedi ymddangos yn Coronation Street, High Hopes a Clocking Off ond efallai ei bod hi'n fwy adnabyddus fel 'Meg' o'r gyfres Scrum 4 gan BBC Wales.

Ganwyd Steve Speirs ym Merthyr Tudful ac mae wedi ymddangos mewn cyfresi megis Doctor Who, NCIS a Jonathan Creek ynghyd â Star Wars: The Phantom Menace a Pirates of the Caribbean. Mae hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y gyfres Stella gan Ruth Jones.

Mae Caroline Sheen yn actores yn y West End yn Llundain ac yn dod yn wreiddiol o Bort Talbot. Mae wedi ymddangos mewn nifer o sioeau cerdd megis Grease, Mamma Mia a Les Miserables ynghyd â chyfresi teledu fel Torchwood a Hotel Babylon.

Tom Shanklin yw un o chwaraewyr rygbi mwyaf llwyddiannus Cymru, ac ymhlith sgorwyr uchaf y tîm cenedlaethol. Mae wedi ennill 70 o gapiau dros ei wlad a hefyd wedi chwarae i Gleision Caerdydd a Llewod Prydain ac Iwerddon.

Dyma'r seithfed gyfres o Cariad@Iaith ac mae sêr y gorffennol yn cynnwys Ian 'H' Watkins, Gareth Thomas, Steve Strange a Janet Street-Porter ac mae'r enwau mawr yn parhau eleni.

Dywedodd cyflwynydd Cariad@Iaith, Nia Parry, "Dw i'n caru popeth am y profiad Cariad@Iaith – yr hwyl, y gweithgareddau, cwrdd á phobl newydd a gweithio gyda chriw hyfryd, ond dw i wrth fy modd yn cael addysgu Cymraeg yn y dosbarth eto. Mae'n hyfryd cael croesawu sêr mor amrywiol i'r ystafell ddosbarth unwaith eto eleni.

Gyda help y tiwtoriaid Ioan Talfryn a Nia Parry, bydd yr wyth seren dewr yn profi eu gallu yn y Gymraeg drwy wersi ffurfiol a defnyddio'r iaith wrth ymgymryd â heriau corfforol amrywiol a'r dull unigryw o ddysgu, sef 'dadawgrymeg', sy'n hybu defnydd o'r iaith drwy ganu a chwarae gemau.

Ond ar ôl wythnos gyfan o wersi dim ond un seren fydd yn cipio'r teitl o ddysgwr Cymraeg gorau'r gyfres a chyhoeddir yr enillydd yn ystod y ffeinal ar nos Sadwrn.

Wyneb newydd arall fydd yn ymuno â'r gyfres eleni fydd y cyflwynydd Wynne Evans a oedd yn gystadleuydd ar y rhaglen mewn cyfres flaenorol. "Dw i'n teimlo'n gyffrous iawn am gyflwyno'r gyfres. Dydw i ddim wir yn gallu credu fy mod i wedi mynd o fod yn gystadleuydd i fod yn gyflwynydd," meddai Wynne, sydd hefyd wedi cyflwyno'r gyfres Am Ddrama ar S4C. "Dydw i ddim yn siŵr os ydw i'n barod ond dwi'n edrych ymlaen at yr her!"

Noddir y gyfres eleni gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Fel Llywodraeth, rydym yn gwbl ymrwymiedig i roi cyfleoedd i bobl o bob oedran i ddysgu Cymraeg ac i'w hannog i ddefnyddio mwy o'r iaith bob dydd.

"Mae'r rhaglen Cymraeg i Oedolion yn allweddol er mwyn sicrhau bod gan oedolion y cyfleoedd i ddysgu Cymraeg ac rwy'n hapus iawn ein bod yn cydweithio ag S4C i gefnogi Cariad@Iaith er mwyn annog mwy o oedolion i ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau."

Ychwanegodd Kim Bryan, llefarydd ar ran Canolfan y Dechnoleg Amgen, "Dyma gyfle euraidd i'r Ganolfan ac i Fachynlleth i arddangos yr ystod eang o weithgareddau sydd i'w gwneud yn yr ardal a chyfeillgarwch y gymuned leol. Mae'r iaith Gymraeg yn rhan annatod a phwysig iawn o'n diwylliant ac mae croesawu Cariad@Iaith yma yn ffordd wych o wneud hynny."

Diwedd

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?