S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cefnogi chwaraeon yng Nghymru

12 Mehefin 2015

  Gyda'r newyddion y bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau Cymru v Gwlad Belg yng ngemau rhagbrofol Euro 2016, mae'r darlledwr wedi pwysleisio pa mor bwysig yw rhoi sylw i ddigwyddiadau chwaraeon mawr ar S4C - a chyfraniad y sianel i chwaraeon yng Nghymru.

Ar ddechrau'r wythnos hon, fe gyhoeddodd S4C y bydd uchafbwyntiau estynedig o'r gêm rhwng Cymru a Gwlad Belg yn cael eu dangos ar y sianel nos Wener am 10.30, yr un noson â'r gêm. Dyma'r tro cyntaf yn y blynyddoedd diweddar y mae S4C wedi gallu dangos gêm y tîm pêl-droed cenedlaethol.

"Mae gallu rhoi sylw i gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru yn ystod un o'r ymgyrchoedd mwyaf cyffrous ers blynyddoedd yn gam pwysig iawn i ni, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cytuno ar drefniant sy'n caniatáu i ni ddangos uchafbwyntiau'r gêm nos Wener yn erbyn Gwlad Belg," meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, gan ychwanegu fod buddsoddiad y sianel mewn chwaraeon yn rhan allweddol o rôl y sianel ym mywyd pobl Cymru.

"Mae chwaraeon yn rhan bwysig o wasanaeth unrhyw sianel gyhoeddus; er mwyn gallu rhoi sylw i ddigwyddiadau pwysig, yn ogystal â darparu gwasanaeth chwaraeon yn yr iaith Gymraeg," meddai Ian Jones.

"Fel rhan allweddol o fywyd Cymru, rydym yn anelu i gyd-weithio â darlledwyr a deiliaid hawliau eraill i weld beth allwn ni ei gyflawni ar y cyd. Yn ogystal, rydym eisiau cyfrannu at chwaraeon yng Nghymru; chwaraeon torfol yn ogystal â champau eraill sydd â'u poblogrwydd ar gynnydd."

Ers tro, mae S4C wedi ymrwymo i ddarlledu prif chwaraeon sydd ag arwyddocâd cenedlaethol, ble bynnag mae hynny'n bosib. Pluen arall yn het S4C eleni yw sicrhau'r hawliau i ddarlledu Cwpan Rygbi'r Byd 2016 yn fyw, yn cynnwys holl gemau Cymru yn ogystal â'r rowndiau cynderfynol a'r gêm derfynol. Mae'r sianel hefyd yn darlledu Pencampwriaeth Dan 20 y Byd yn fyw, gyda'r ornest yn cael ei chynnal yn Yr Eidal ar hyn o bryd.

Ymhlith y pencampwriaethau eraill sy'n cael sylw rheolaidd ar y sianel mae gemau pêl-droed byw yn Uwch Gynghrair Cymru, rygbi Pro12 a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad – ond mae’r holl sylw nawr wedi ei hoelio ar y tîm pêl-droed rhyngwladol, a'u gornest yn erbyn Gwlad Belg.

"Er mwyn sicrhau'r hawliau ar gyfer y gêm ragbrofol Euro 2016, roeddem falch iawn o weithio â'r prif ddarlledwr Sky i gytuno ar drefn sy'n caniatáu darlledu uchafbwyntiau estynedig ar S4C yr un noson â'r gêm ei hun. Mae'n dystiolaeth bellach o'n hymrwymiad ni i chwaraeon yng Nghymru a'n hymrwymiad ni i'r cynulleidfa ar draws Cymru sydd eisiau dilyn a chefnogi ein tîm cenedlaethol."

Bydd uchafbwyntiau estynedig o gêm Cymru v Gwlad Belg, rowndiau rhagbrofol Euro 2016, ar S4C nos Wener 12 Mehefin am 10.30. Bydd y rhaglen hefyd ar gael ar alw ar wefan S4C - s4c.cymru - am 7 diwrnod yn dilyn y darllediad gwreiddiol.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?