S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dim darllediad byw o Cymru Dan 20 v Awstralia Dan 20

19 Mehefin 2015

Oherwydd amgylchiadau sydd yn tu hwnt i reolaeth S4C, ni fydd modd dangos gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth Dan 20 y Byd yn fyw ar y sianel.

Yn groes i'r disgwyl, ni fydd y gêm rhwng Cymru ac Awstralia, sydd i benderfynu'r pumed safle yn y gystadleuaeth, yn cael ei darlledu yn fyw gan y prif ddarlledwr yn Yr Eidal, ac felly nid oes modd cynnig darllediad byw ar unrhyw sianel.

Fodd bynnag, mi fydd uchafbwyntiau'r gêm ynghyd â dadansoddiad a golwg ar daith Cymru gydol y gystadleuaeth yn cael eu dangos ar S4C ar nos Sadwrn, 20 Mehefin, am 7.00.

Bydd y rhaglen nos Sadwrn, sydd hefyd yn cynnwys darllediad byw o'r gêm derfynol rhwng Lloegr a Seland Newydd, ar gael i'w gwylio ar-lein ar alw ar s4c.cymru, am 7 diwrnod yn dilyn y darllediad gwreiddiol.

Mae S4C wedi ymrwymo i ddangos pob un o gemau Cymru yn y gystadleuaeth os oedd y signal byw yn cael ei ddarparu gan y prif ddarlledwr, yn ogystal â darlledu'r rowndiau cynderfynol a terfynol yn fyw.

Mae'n ddrwg gennym fod amgylchiadau y tu hwnt i'n gafael wedi golygu nad oedd modd i S4C ddarparu darllediad byw o holl gemau Cymru.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?