S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ffilmio drama wleidyddol yn y Senedd

10 Gorffennaf 2015

Bydd camerâu S4C yn dechrau ffilmio drama wleidyddol newydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd o'r wythnos nesaf ymlaen.

Bydd cwmni Tarian yn ffilmio y cyfres newydd, Byw Celwydd ym Mae Caerdydd.

Bydd y gyfres wyth rhaglen yn cael ei darlledu yn ystod mis Ionawr 2016, am naw o'r gloch nos Sul.

Bydd y ddrama ffuglen hon yn portreadu Llywodraeth Cymru o dan lyw arweinwyr na fu mewn grym o'r blaen. Caiff y Llywodraeth ei rheoli gan glymblaid enfys o'r enw; Y Democratiaid, Y Cenedlaetholwyr, a'r Sosialwyr fydd yr wrthblaid. Caiff y glymblaid enfys ei harwain gan Brif Weinidog sy'n rhan o'r Ceidwadwyr Newydd, Meirion Llewelyn, sy'n cael ei bortreadu gan Richard Elfyn. Dyma ddrama wleidyddol cyntaf S4C ers ychydig flynyddoedd.

Gyda'r blaid asgell ganol chwith mewn gwrthblaid am y tro cyntaf, bydd yr elyniaeth wleidyddol yn fwy ffyrnig nag erioed o'r blaen.

Mae'r ddrama wedi ei chreu gan y tîm llwyddiannus y tu ôl i gyfresi poblogaidd fel Teulu, a ffilm bwerus Ryan a Ronnie, ac mae wedi ei chreu gan y cynhyrchydd Branwen Cennard, a'r dramodydd profiadol, Meic Povey.

Mae cwmni cynhyrchu Tarian, sydd wedi eu lleoli yn Nhreorci, Rhondda, wedi gofyn i'r awdures Siân Naomi hefyd i sgriptio'r ddrama bwerus, ynghyd â Meic Povey a bydd y cwmni cynhyrchu yn cael ei arwain gan Eryl Huw Phillips.

Mae'r cast hefyd yn rai profiadol ac amryddawn, yn cynnwys Matthew Gravell sydd wedi ymddangos ar gyfres boblogaidd ITV, Broadchurch a 35 Diwrnod, a Cath Ayres sydd wedi actio yn nrama ddiweddar S4C, Tir, Sara Lloyd Gregory a Mark Lewis Jones.

Mae Byw Celwydd wedi gweu straeon gafaelgar ac amserol yn ogystal â chymeriadau didostur sy'n siŵr o ddal sylw cynulleidfa.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu criw Byw Celwydd i ffilmio mewn nifer o leoliadau o fewn yr adeilad. Caiff y ddrama ei ffilmio mewn nifer o leoliadau o amgylch Caerdydd a'r ardal, yn cynnwys Trebiwt, Dinas Powys a Phenarth.

Bydd Byw Celwydd yn dilyn y newyddiadurwraig Angharad Wynne, sy'n cael ei phortreadu gan Cath Ayres, wrth iddi geisio i ddatgloi cyfrinachau o fewn y Senedd.

Dywed cynhyrchydd Byw Celwydd Branwen Cennard: "Mae cast a chriw Byw Celwydd yn edrych ymlaen at ffilmio yn y Senedd, sy'n adeilad mor eiconig; fel cynhyrchydd Byw Celwydd, dw i'n hynod ddiolchgar i Gomisiwn y Cynulliad yn ogystal ag arweinyddion y pedair prif blaid yng Nghymru am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth."

Dywed Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C Dafydd Rhys: "Yn dilyn holl gyffro gwleidyddol ddiweddar, y refferendwm yn yr Alban ac etholiadau'r Llywodraeth, a'r modd mae wedi dal sylw pobl Cymru, mae hi'n hen bryd i ni gael drama gyffrous wleidyddol ar y Sianel. Mae hi'n gyfnod addas i gael rhaglen sy'n mynd i greu chwilfrydedd gwleidyddol yng Nghymru, gydag etholiadau'r Cynulliad ar y gorwel y flwyddyn nesaf."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?