S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Gwyll yn dychwelyd ar S4C

31 Gorffennaf 2015

Bydd rhaid i wylwyr y gyfres Y Gwyll/Hinterland nodi dydd Sul 13 Medi 2015, fel diwrnod pwysig yn eu calendr, gan mai dyna'r dyddiad mae Y Gwyll yn dychwelyd i sgrin S4C.

Bydd yr ail gyfres o'r ddrama dditectif afaelgar gyda'r actor Richard Harrington yn portreadu DCI Tom Mathias yn y brif ran, yn cael ei darlledu gyntaf yn y Gymraeg ar S4C.

Bydd y ddrama yn cael ei darlledu yn y slot poblogaidd am 9.00 nos Sul, gydag isdeitlau Saesneg ar gael.

Cafodd Y Gwyll ei chynhyrchu ochr yn ochr â'r fersiwn Saesneg, a bydd fersiynau dwyieithog yn cael eu ddarlledu ar BBC Cymru Wales a BBC Four cyn bo hir, gyda'r dyddiadau i'w cyhoeddi maes o law.

Darlledwyd rhifyn arbennig o Y Gwyll ar Ddydd Calan eleni, a gosododd hyn awyrgylch ar gyfer yr ail gyfres, gyda DCI Mathias mewn cythrwfl emosiynol wrth i'w orffennol tywyll ei boeni.

Mae ymddangosiad annisgwyl ei wraig Meg yn cynyddu chwilfrydedd y gwyliwr; caiff Meg ei phortreadu gan enillydd BAFTA, Anamaria Marinca sy'n dod o Rwmania yn wreiddiol.

Mae'r ail gyfres yn parhau gyda phedwar achos cwbl newydd dros gyfnod o wyth pennod awr o hyd.

Cafodd yr ail gyfres ei ffilmio ar leoliad gyda thirlun trawiadol, prydferth ac anial Ceredigion yn gefndir iddi hi.

Mae'r cynhyrchiad wedi'i ariannu gan y partneriaid S4C a BBC Cymru Wales, gydag all3media International, Tinopolis a Chyllid Busnes Cymreig hefyd yn cyfrannu; a chaiff Y Gwyll ei chynhyrchu gan gwmni arobryn Fiction Factory.

Mae'n uno Richard Harrington â thîm cynhyrchu sy'n cynnwys Ed Talfan ac Ed Thomas, a'r cynhyrchydd Gethin Scourfield.

Mae'r cast amryddawn hefyd yn cynnwys Mali Harries fel DI Mared Rhys, Aneirin Hughes fel Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser, Hannah Daniel fel DS Siân Owens ac Alex Harries fel DC Lloyd Elis.

Bydd yr actor Mark Lewis Jones hefyd yn ymuno â phawb ar gyfer pennod gyntaf y gyfres.

Mae'r gyfres wedi ei gwerthu yn rhyngwladol gan gwmni all3media International ac mae nawr wedi ei gwerthu i 30 gwlad wahanol, ac mae ar gael yn rhyngwladol ar Netflix.

Meddai'r cynhyrchydd o Fiction Factory Ed Thomas:

"Rydym wrth ein boddau gydag ymateb y gwylwyr i Y Gwyll/Hinterland ym Mhrydain ac ar draws y byd. Mae ymdeimlad cryf tuag at le yn hollbwysig tuag at lwyddiant y gyfres, ac mae'r storïau wedi esblygu ar leoliad yng Ngheredigion. Mae'r dirwedd yn enwedig, bron fel cymeriad ynddo i hunau, ac mae'r gyfres newydd yn dilyn pedair stori gwbl newydd gydag ambell ddatguddiad am gefndir yr actorion wrth galon y cwbl."

Meddai Comisiynydd Cynnwys Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd,

"Rydym yn hynod o falch o fod wedi comisiynu cyfres ddrama sy'n rhoi llwyfan i Gymru ar draws y byd. Mae wedi gwneud ei farc yn rhyngwladol oherwydd bod y ddrama yn uchelgeisiol, yn ddrama dditectif o safon uchel, sy'n cyfuno storïau gafaelgar a chymeriadau cynhyrfus, actio o'r radd uchaf, a gwerthoedd cynhyrchu a chyfarwyddo sy'n cwrdd â'n huchelgais. Rydym yn edrych ymlaen yn ofnadwy at yr ail gyfres."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?