S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi tîm cyflwyno Cwpan Rygbi'r Byd 2015

03 Awst 2015

Mae S4C wedi cyhoeddi enwau’r tîm fydd yn cyflwyno, sylwebu a dadansoddi ar raglenni’r sianel o Gwpan Rygbi'r Byd 2015. Yn eu plith mae deg o gyn chwaraewyr Cymru gyda 405 o gapiau a 1344 o bwyntiau rhyngddynt i’w gwlad.

Yn nhîm S4C bydd yr asgellwr gyda’r nifer fwyaf o gapiau i Gymru, Shane Williams, un o’r rhai sgoriodd fwya’ o bwyntiau i Gymru, Stephen Jones, a phedwar o Jonesiaid talentog eraill – Gwyn, Dafydd, Deiniol a Derwyn.

Bydd y sianel yn cynnig gwasanaeth swmpus o gemau byw, uchafbwyntiau a rhaglenni trafod a dadansoddi o’r bencampwriaeth.

Fe fydd gwasanaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2015 ar S4C yn cynnwys naw gêm fyw, gan ddilyn holl gemau Cymru yn ystod y bencampwriaeth a gynhelir yn bennaf yn Lloegr. A beth bynnag fydd tynged Cymru yn ystod y gystadleuaeth, bydd S4C yn darlledu'n fyw un gêm o rownd yr wyth olaf, un gêm o'r rownd gynderfynol, y gêm efydd a'r ffeinal.

Gareth Roberts fydd yn cyflwyno’r gemau byw gydag Wyn Gruffydd a chyn gapten Cymru, Gwyn Jones fel sylwebwyr ac Owain Gwynedd fel gohebydd. Bydd Dot Davies yn cyflwyno sioe arbennig o ddadansoddi a thrafod Cwpan Rygbi’r Byd bob nos Fercher ar S4C gydag enwau amlwg o’r byd rygbi fel gwesteion a Rhys ap William fel gohebydd. Cynhelir y sioe mewn clwb rygbi gwahanol yng Nghymru bob wythnos.

Bydd Dot yn croesawu Gwyn Jones fel gwestai bob nos Fercher a’r gwesteion eraill ar y sioe ac yn ystod darllediadau’r gemau byw bydd cyn chwaraewyr Cymru, Dwayne Peel, Dafydd Jones, Deiniol Jones a Stephen Jones. Gwesteion eraill sioe nos Fercher fydd Shane Williams, Derwyn Jones, Arthur Emyr, a’r brodyr Nicky a Jamie Robinson.

Bydd gwasanaeth S4C yn dechrau ar Nos Fercher 16 Medi gyda rhaglen rhagolwg arbennig ac

yna ar Nos Wener 18 Medi fe fydd darllediad o'r seremoni a'r gêm agoriadol Lloegr v Fiji yn Twickenham.

Bydd ymgyrch Cymru yn y bencampwriaeth yn dechrau ar nos Sul 20 Medi yn Stadiwm y Mileniwm yn erbyn Uruguay. Yna bydd Cymru'n chwarae Lloegr yn Twickenham ar nos Sadwrn 26 Medi. Ar ddydd Iau 1 Hydref fe fydd Cymru yn wynebu Fiji yng Nghaerdydd ac Awstralia v Cymru fydd y gêm hollbwysig olaf yn y rowndiau grŵp ar ddydd Sadwrn 10 Hydref yn Twickenham.

Yn ogystal â'r darllediadau teledu, bydd y naw gêm ar gael i'w gwylio ar wasanaeth ar-lein ar-alw S4C, s4c.cymru Gallwch hefyd fwynhau holl uchafbwyntiau'r gemau ar y wefan rygbi, s4c.cymru a hefyd ar iPlayer a llwyfannau eraill.

Yn ogystal, bydd y sioe siarad rygbi a mwy, Jonathan ymlaen yn ystod y bencampwriaeth gydag arwr y maes rygbi, Jonathan Davies, a fu’n chwarae i Gymru yn y ddau god, a Sarra Elgan yn bwrw golwg ysgafn ar yr holl chwarae ar noswyl gemau Cymru.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Rydym yn falch i gyhoeddi criw cryf o gyn-chwaraewyr rhyngwladol yn ein tîm cyflwyno. Maen nhw’n ddadansoddwyr o’r radd flaenaf, y gorau posib i gyflwyno a dehongli’r digwyddiad chwaraeon enfawr a byd-eang hwn i wylwyr yn yr iaith Gymraeg.

“Bydd y tîm hwn yn cynnig gwasanaeth bydd cefnogwyr rygbi am ei ddilyn am eu bod nhw’n athletwyr profiadol ar lefel ryngwladol. Bydd y gwasanaeth fydd S4C yn gynnig yn dangos cydbwysedd golygyddol ac arbenigedd rygbi bob amser, ond bydd y persbectif Cymreig yn siŵr o ddal eu diddordeb a’u sylw.”

Dywed Cadeirydd Cwpan y Byd, Bernard Lapasset, "Rydym yn falch iawn y bydd Cwpan Rygbi’r Byd 2015 yn cael ei ddarlledu yn Gymraeg i ddilynwyr y gêm yn un o’r gwledydd rygbi mwyaf angerddol yn y byd. Mae S4C wedi dewis tîm cyflwyno ardderchog ar gyfer y twrnamaint, tîm fydd yn ychwanegu at holl gyffro pencampwriaeth sy’n addo torri pob record ac a fydd yn ddathliad arbennig iawn o rygbi ac o’r dinasoedd hynny sydd yn cynnal y gystadleuaeth, gan gynnwys Caerdydd.”

Meddai Gareth Davies, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, “Mae S4C yn bartner darlledu pwysig i Undeb Rygbi Cymru ac rydym yn hapus dros ben gyda’r cynlluniau mae’r sianel wedi cyhoeddi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

“Mae ganddyn nhw dim cryf o sylwebwyr, gohebwyr a dadansoddwyr felly bydd dilynwyr rygbi yn sicr o gael dadansoddiad arbenigol o’r twrnamaint enfawr hwn.

“Rydym yn gwerthfawrogi pob ymdrech i ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn rygbi ac edrychwn ymlaen at ymrwymiad llwyddiannus S4C o’r gic gyntaf drwodd i’r ffeinal.”

Bydd S4C yn lansio’i hymgyrch Cwpan Rygbi’r Byd 2015 ar sgrin ddydd Llun 10 Awst gydag wythnos o raglenni rygbi. Ymhlith yr arlwy fydd Cwpan Rygbi’r Byd: Y Clasuron - gemau cofiadwy o’r archif yn cael eu cyflwyno gan gyn chwaraewyr Cymru o’r adegau penodol.

Hefyd yn Wythnos Rygbi S4C darlledir rhaglenni dogfen am rai o arwyr a chymeriadu’r gêm - Delme Thomas, Gareth Edwards, Ray Gravell, Carwyn James a Huw Llywelyn Davies. Bydd rhaglen ddogfen arall Y 15 Olaf yn adrodd hanes y pymtheg ola’ i chwarae i Gymru cyn i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau.

Ceir uchafbwyntiau o gemau Cymru Dan 18 yn erbyn yr Eidal a De Affrica yn ystod yr wythnos yn ogystal â gemau ar brynhawn Sadwrn 15 Awst o Ŵyl Rygbi 7 bob ochr Caerdydd - y gyntaf i’w chynnal.

Yn yr wythnosau eraill yn arwain at Gwpan Rygbi’r Byd 2015, bydd S4C yn darlledu mwy o raglenni rygbi yn edrych ymlaen at y bencampwriaeth, cyfres o dair rhaglen Hanes Cwpan y Byd, rhaglenni’n dangos goreuon rygbi’r clybiau yn Ffrainc - y Top 14 - a rhaglenni dogfen gan gynnwys Y Gêm Gudd fydd yn adrodd stori gêm ddadleuol Llanelli yn Rwsia yn y 50au.

Bydd pedwar côr rhanbarthol - Scarlets, Y Dreigiau, Y Gweilch a’r Gleision - yn ogystal â chôr o ogledd Cymru yn cystadlu yn Codi Canu - cystadleuaeth gorawl yn cael ei darlledu ar S4C fel rhan o ddathliadau Cwpan Rygbi’r Byd 2015.

Diwedd

S4C

S4C yw’r unig sianel deledu Cymraeg yn y byd. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae’n comisiynu cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i wneud y rhan fwyaf o’i raglenni. Mae ITV Cymru hefyd yn cynhyrchu rhaglenni i S4C ac mae BBC Cymru yn gwneud tua deg awr yr wythnos o raglenni ar gyfer y sianel. Mae S4C yn darlledu dros 115 awr o raglenni bob wythnos – o chwaraeon, drama a cherddoriaeth i raglenni ffeithiol, adloniant a digwyddiadau – ar wahanol lwyfannau gan gynnwys y we.

S4C – Sianel Rygbi

Mae S4C yn darlledu nifer fawr o raglenni rygbi o bob math – o raglenni ieuenctid drwodd i Gwpan Pencampwyr Ewrop, o rygbi’r colegau i’r Guinness Pro 12, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a gemau rhyngwladol yr hydref. Mae’r sianel hefyd yn darlledu rhaglenni trafod a rhaglenni adloniant i gyd-redeg a’r gemau eu hunain.

S4C – Cyfle i bawb wylio

Mae S4C ar gael ar: 

Sky 104 yng Nghymru

Freeview 4 yng Nghymru

Virgin TV 166 yng Nghymru

Freesat 104 yng Nghymru

Sky 134 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon Freesat 120 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon Virgin TV 166 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Ar-lein ac ar alw ar s4c.cymru

Mae modd gwylio S4C yn fyw ledled y DU ar wefan tvcatchup.com a TVPlayer.com Mae rhaglenni S4C hefyd ar gael ar YouView a BBC iPlayer

S4C - Y Tîm

Gareth Roberts

Un o Benllech, Ynys Môn yw Gareth Roberts yn wreiddiol. Gareth yw cyflwynydd Clwb Rygbi a nifer o raglenni eraill ar S4C. Yn ogystal â’i ddiddordeb mewn chwaraeon yn gyffredinol a rygbi yn arbennig, mae Gareth yn golffiwr penigamp ac yn chwarae yng Nghlwb Golff Creigiau ger Caerdydd.

Dot Davies

Mae Dot Davies yn gyflwynydd rygbi ar raglenni S4C ac ar Sport Wales i BBC Cymru. Yn enedigol o Flaenannerch, Ceredigion, mae hi’n hoff o bob math o chwaraeon - rygbi a thennis yn arbennig. Mae Dot wedi cyflwyno o Wimbledon i BBC Radio 5live, Radio 4 a Radio 2 ers dros ddeng mlynedd.

Wyn Gruffydd

Mae gan Wyn fwy na 30 mlynedd o brofiad fel sylwebydd teledu a radio ar ddarllediadau byw gwahanol chwaraeon a digwyddiadau yn amrywio o rygbi, seiclo a ralïo i rasio harnais a threialon cwn defaid rhyngwladol. Yn wreiddiol o Langain, ger Caerfyrddin, ysgrifennodd lyfr wedi ei seilio ar ei brofiadau fel sylwebydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011 yn Seland Newydd.

Owain Gwynedd Griffith

Mae Owain Gwynedd yn ddyfarnwr rygbi yn Uwch Gynghrair Cymru'r Principality yn ogystal â bod yn ohebydd ar raglenni rygbi S4C. Yn enedigol o Borthmadog, mae Owain yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Yyn gyflwynydd rhaglenni plant, mae newydd ymuno a rhaglen gylchgrawn S4C Prynhawn Da fel cyflwynydd. Yn ei yrfa fel chwaraewr rygbi bu’n gapten tîm Prifysgol Caerdydd ac yn chwarae i Bontypridd. Cafodd ei drwydded fel peilot awyrennau yn 2010.

Gwyn Jones

Enillodd Gwyn Jones 13 cap fel blaenasgellwr i Gymru, pump ohonyn nhw fel capten ei wlad. Yn ewreiddiol o Gasllwchwr, bu Gwyn yn chwarae i glwb Caerdydd tan i anaf i’w gefn wrth chwarae i’w glwb ym mis Rhagfyr 1997 ddod a’i yrfa fel chwaraewr i ben yn gynnar. Yn ogystal â’i waith prysur fel sylwebydd gemau rygbi ac fel dadansoddwr, mae Gwyn yn feddyg teulu.

Dafydd Jones

Chwaraeodd Dafydd Jones 44 o gemau fel blaenasgellwr i Gymru. Yn enedigol o Lanarth, Ceredigion, bu’n aelod o dîm y Scarlets gan chwarae iddyn nhw 104 o weithiau cyn gorfod ymddeol o’r gêm yn 2011 oherwydd anafiadau. Mae Dafydd, sy’n byw gyda’i deulu ym Mhorthyrhyd ger Caerfyrddin, yn ymddangos yn gyson fel dadansoddwr ar raglenni rygbi S4C.

Deiniol Jones

Yn enedigol o Gaerfyrddin, enillodd Deiniol Jones 13 o gapiau yn chwarae fel clo i Gymru. Bu’n chwarae i nifer o glybiau gan gynnwys Caerfaddon, Glyn Ebwy, Penybont-ar-Ogwr, y Rhyfelwyr Celtaidd a Gleision Caerdydd. Bu’n rhaid iddo orfod ymddeol fel chwaraewr oherwydd anafiadau yn 2012. Erbyn hyn mae’n ymddangos yn gyson fel arbenigwr ar raglenni rygbi S4C.

Stephen Jones

Enillodd Stephen Jones fwy o gapiau i Gymru na neb arall ac eithrio Gethin Jenkins. Ef yw’r chwaraewr sgoriodd fwyaf o bwyntiau i Gymru ac eithrio Neil Jenkins - 917 o bwyntiau mewn 104 o gemau rhwng 1998 a 2011. Wedi’i fagu yn Sir Gaerfyrddin, enillodd chwe chap dros y Llewod a bu’r maswr hefyd yn chwarae i Wasps, Scarlets a Clermont Auvergne yn Ffrainc.

Dwayne Peel

Mae’r mewnwr sydd wedi ennill 76 cap i Gymru yn dal i chwarae i dîm Bryste. Dwayne oedd y mewnwr gyda mwyaf o gapiau i Gymru tan i Mike Phillips guro’i record yn 2013. Cafodd Dwayne dri chap hefyd gyda’r Llewod yn ystod eu taith i Seland Newydd yn 2005. Bu’n chwarae i’r Scarlets, i glwb Sale Sharks yn ogystal â Bryste. Mae Dwayne yn dod yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin.

Shane Williams

Does dim llawer o chwaraewyr rygbi yn fwy adnabyddus na Shane Williams. Sgoriodd 290 o bwyntiau i Gymru a 60 o geisiau mewn 87 o gemau rhwng 2000 a 2011. Enillodd bedwar cap i’r Llewod. Yn enedigol o Dreforys, magwyd yr asgellwr yng Nglanaman a bu’n chwarae i Gastell-nedd, y Gweilch a Mitsubishi Dynaboars yn Siapan. Yn 2008 cafodd ei enwi fel Chwaraewr Rhyngwladol y Flwyddyn gan yr IRB – Bwrdd Rhyngwladol Rygbi ac mae’n dal yn drydydd yn rhestr prif sgorwyr ceisiau’r byd.

Derwyn Jones

Yn enedigol o Bontarddulais, chwaraeodd y cawr o glo, Derwyn Jones 19 gwaith i Gymru. Bu hefyd yn chwarae i glybiau Caerdydd, Castell-nedd, Northampton a Bedford. Fe oedd y chwaraewr cyntaf ym Mhrydain i lofnodi cytundeb proffesiynol gan adael ei swydd gyda'r heddlu i ddilyn gyrfa ym myd rygbi.

Arthur Emyr

Yn wreiddiol o Ynys Môn, enillodd Arthur Emyr 13 o gapiau i Gymru fel asgellwr. Bu’n chwarae i glybiau Abertawe a Chaerdydd. Mae Arthur yn dal y record am y nifer fwyaf o geisiau i glwb rygbi Abertawe. Roedd Arthur Emyr hefyd yn athletwr llwyddiannus ac fe fu’n rhedeg dros Gymru. Arthur oedd cyflwynydd cyntaf cyfres bêl-droed S4C Sgorio.

Jamie Robinson

Mae Jamie’n un o ddau o frodyr o Gaerdydd enillodd gapiau i Gymru. Fel canolwr, chwaraeodd Jamie 23 gwaith i’w wlad gan sgorio saith cais a 35 o bwyntiau. Bu hefyd yn chwarae i’r Gleision ac i Toulon ac Agen yn Ffrainc.

Nicky Robinson

Enillodd Nicky Robinson, brawd Jamie, 13 cap i Gymru. Fel maswr, bu hefyd yn chwarae i’r Gleision, Caerloyw, Wasps a Bryste. Bydd Nicky’n chwarae ei rygbi yn Ffrainc y tymor nesaf fel rhan o dîm cyntaf Oyonnax.

Rhys ap William

Mae’r actor Rhys ap William wedi ymddangos mewn nifer o ddramâu a chyfresi ar S4C gan gynnwys Pobol y Cwm a 35 Diwrnod. Eleni yn y theatr mae wedi bod yn chwarae'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Gareth Thomas yn nrama Robin Soans, Crouch, Touch, Pause, Engage. Mae Rhys yn gyn gadeirydd Clwb Cymry Caerdydd a bu’n chwarae i’r clwb hefyd. Ef yw llais cyfarwydd y cyflwynydd yn Stadiwm y Mileniwm i deledu Undeb Rygbi Cymru.

S4C – Yr Amserlen

Gwener Medi 18: Seremoni Agoriadol a’r Gêm Gyntaf Lloegr v Fiji 1900 Twickenham

Sul Medi 20: Cymru v Uruguay 1430 Stadiwm y Mileniwm

Mercher Medi 23: Sioe Drafod Nant Conwy

Sadwrn Medi 26: Cymru v Lloegr 2000 Twickenham

Mercher Medi 30: Sioe Drafod Clwb Rygbi Crymych

Iau Hydref 1: Cymru v Fiji 1645 Stadiwm y Mileniwm

Mercher Hydref 7: Sioe Drafod Parc yr Arfau, Caerdydd

Sadwrn Hydref 10: Cymru v Awstralia 1645 Twickenham

Mercher Hydref 14: Sioe Drafod Clwb Rygbi’r Aman

Sadwrn a Sul Hydref 17/18: Gemau’r Chwarteri 1530 Twickenham a Stadiwm y Mileniwm

Mercher Hydref 21: Sioe Drafod Clwb Rygbi Aberystwyth

Sadwrn a Sul Hydref 24/25: Gemau cynderfynol 1530 Twickenham a Stadiwm y Mileniwm

Mercher Hydref 28: Sioe Drafod Parc y Scarlets

Gwener Hydref 30: Gêm y 3edd safle 1930 Y Parc Olympaidd, Llundain

Sadwrn Hydref 31: Cwpan Rygbi’r Byd 2015 Y Ffeinal 1530 Twickenham

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?