S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Prif Weithredwr S4C yn galw am degwch i wasanaeth darlledu cyhoeddus Cymraeg

03 Awst 2015

Prif Weithredwr S4C yn galw am degwch i wasanaeth darlledu cyhoeddus Cymraeg

Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, wedi galw am degwch wrth i ddyfodol ariannu S4C gael ei ystyried yn rhan o drafodaeth banel am Ddyfodol y Cyfryngau yng Nghymru.

Yn y sgwrs banel ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau heddiw, mae Ian Jones wedi pwysleisio swyddogaeth unigryw S4C fel yr unig sianel deledu Cymraeg yn y byd, a'r unig ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg ar deledu.

Yn ystod y drafodaeth, mi alwodd Ian Jones am degwch i bawb wrth wneud arbedion, yng nghyd-destun toriadau aruthrol o 36% i gyllid S4C mewn termau real ers 2010.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; "Mae'r cyfryngau wedi newid llawer ers sefydlu S4C yn 1982. Mae heriau gwahanol yn ein hwynebu yn yr oes hon gyda'r gynulleidfa wedi ffragmanteiddio a chystadleuaeth nid yn unig gan ddegau ar gannoedd o sianelu teledu eraill, ond hefyd gan y doreth o gynnwys ar-lein.

"Ond y cwestiwn i mi yw beth fydd siâp darlledu cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg mewn blynyddoedd i ddod? Gyda'r chwiban bellach wedi chwythu ar drafodaethau ynghylch dyfodol ariannu S4C, rwy'n cytuno fod angen i bob sefydliad fod yn barod i rannu'r baich o wneud arbedion, ond mae angen sicrhau tegwch.

"Mae'n rhaid ystyried y gwasanaeth mae S4C yn ei ddarparu, a faint o wasanaeth darlledu cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg fydd ar ôl, os bydd ‘na doriadau sylweddol i fframwaith a gwasanaeth S4C, a thegwch i fi yw cymryd ystyriaeth o’r toriadau o 36% mewn termau real a gafodd eu gosod yn ôl yn 2010.

"Tra bod yna ddewis o adnoddau Saesneg ar gael i wylwyr yng Nghymru, dim ond un dewis sydd yn y Gymraeg. Mae’n rhaid i S4C gael ei chyllido mewn ffordd sy’n ei galluogi hi i wneud y gwaith, neu mae angen penderfyniadau gwleidyddol ynglŷn â pha elfennau o’r gwasanaeth darlledu cyhoeddus, y mae’n dderbyniol i’w hepgor yn y Gymraeg."

Cynhaliwyd y drafodaeth ym mhabell Prifysgol Caerdydd ar Faes yr Eisteddfod. Ar y panel gyda Phrif Weithredwr S4C Ian Jones roedd Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies; Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd; Dr Rhodri ap Dyfrig, arbenigwr ar y cyfryngau torfol. Yn Cadeirio roedd y Bargyfreithiwr Gwion Lewis, cyflwynydd cyfres Cyflwr y Cyfryngau, BBC Radio Cymru.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?