S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cynllun Ffilm Fer newydd i gefnogi straeon lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT) yn y Gymraeg

06 Awst 2015

 • S4C a Ffilm Cymru Wales yn cyd-weithio â Gwobr Iris

• Bydd y ffilm fer yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar achlysur pen-blwydd yr ŵyl yn 10 oed yn 2016

Mae trefnwyr Gwobr Iris heddiw (6 Awst 2015) wedi lansio cynllun ffilm fer LHDT newydd yn yr iaith Gymraeg gyda chefnogaeth S4C a Ffilm Cymru Wales trwy BFI NET.WORK.

Nod y cynllun - o'r enw Straeon Iris - yw annog rhagor o straeon LHDT ar gyfer y sgrin, o Gymru, am Gymru, ac yn y Gymraeg. Mae'r cynllun yn agored i ysgrifenwyr unigol yn ogystal â phartneriaeth rhwng ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr gyda'r bwriad o ddatblygu chwe sgript ffilm fer cyn dewis un ar gyfer ei chynhyrchu.

"Rydym wedi rhannu ein straeon gyda chynulleidfa mor eang â phosib ers bron i 10 mlynedd. Yn ystod y ddegawd rydym wedi clywed straeon LGBT anhygoel mewn amryw o ieithoedd ar draws y byd. Ar achlysur ein pen-blwydd yn 10 oed, mae'n addas iawn ein bod ni'n troi ein golygon tuag adref, ac yn cefnogi straeon LHDT yn yr iaith Gymraeg," meddai Andrew Pierce Cadeirydd yr Ŵyl.

"Rydym yn falch iawn o gyd-weithio â S4C a Ffilm Cymru Wales, ill dau yn gefnogwyr diflino o dalentau newydd yng Nghymru, yn yr iaith Gymraeg a'r Saesneg. Drwy'r bartneriaeth hon byddwn yn cyflwyno straeon LGBT o Gymru yn y Gymraeg i gynulleidfa ryngwladol drwy ein rhwydwaith fyd-eang o bartneriaid yr ŵyl mewn 15 o wledydd," mae'n ychwanegu.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C; "Mae Straeon Iris yn brosiect cyffrous ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Gwobr Iris a Ffilm Cymru Wales. Ers sefydlu S4C, bu'r sianel yn llysgennad ar gyfer drama yn yr iaith Gymraeg ac rydym yn ymrwymo i adlewyrchu amrywiaeth ar y sgrin. Mae Straeon Iris yn argoeli i fod yn gyfle gwych i roi llwyfan i draws doriad eang o leisiau yn ogystal â chludo'r Gymraeg ar draws y byd."

Ychwanegodd Tracy Spottiswoode, Rheolwr BFI NET.WORK Ffilm Cymru Wales, "Mae Straeon Iris yn fenter newydd pwysig sy'n rhan o'n hymrwymiad i gefnogi amrywiaeth, ac adlewyrchu amrywiaeth cyfoethog o leisiau a storïau o Gymru. Daw'r cyfle cyffrous yma yn dilyn ein cynllun sgriptio Cymraeg diweddar Y Labordy yn ogystal â mentrau ffilmiau byrion Beacons/Bannau, ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu ein gwaith gyda Gŵyl Gwobr Iris, sefydliad rydym ni wedi ei gefnogi ers y dechrau!"

Bydd y ffilm yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn ystod dathliadau Gŵyl Ffilm Gwobr Iris yn 10 oed yn Hydref 2016.

Mae'r wybodaeth lawn am y cynllun ar gael ar www.irisprize.org

Gwyliwch fideo hyrwyddo Straeon Iris ar YouTube

Diwedd 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?