S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i gynhyrchwyr dogfen Cymraeg fireinio'u sgiliau yng nghwmni cynhyrchwyr amlwg yn y maes

25 Awst 2015

Mae S4C yn gwahodd cyfarwyddwyr rhaglenni dogfen i fynychu cwrs deuddydd arbennig yn swyddfa S4C yn Llanisien, Caerdydd, i'w gynnal ganol mis Medi.

Bydd un o uwch gynhyrchwyr amlycaf Prydain, golygydd cyfres Storyville Nick Fraser, yn arwain dosbarth meistr tra bydd dau diwtor profiadol ym maes ffeithiol, Patrick Uden a Frank Ash, yn cynnal gweithdai eraill yn rhan o'r cwrs deuddydd ar 16 a 17 Medi.

Mae'r cwrs yn cael ei drefnu gan S4C gan y Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol, Llion Iwan, mewn cydweithrediad â'r cwmni hyfforddi creadigol, digidol a chyfryngol, Cyfle.

"Mae'r cwrs yma'n gyfle inni gwrdd a rhannu syniadau a phrofiadau gyda'n gilydd o safbwynt cynhyrchu rhaglenni ffeithiol gafaelgar a chofiadwy,’ meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol.

‘Yng nghwmni rhai o feddylwyr craffa'r maes, fe fyddwn yn edrych yn benodol ar sut i gyrraedd cynulleidfaoedd teledu mewn ffordd effeithiol fydd yn cynnal eu diddordeb a'u chwilfrydedd."

Mae'r cwrs, a fydd yn rhad ac am ddim, yn agored i 20 o bobl yn unig, ac ar gyfer cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr rhaglenni dogfen sydd wedi cael eu darlledu.

I ymgeisio am le ar y cwrs unigryw hwn, cysylltwch gan anfon CV cryno, at catrin@cyfle.co.uk erbyn 12.00 ar ddydd Llun, 7 Medi.

Os byddwch yn cael eich derbyn i fynychu'r cwrs, bydd disgwyl i chi fynychu gyda sgript neu grynodeb ar gyfer syniad am raglen ddogfen sydd un ai wedi ei chomisiynu, neu wedi ei darlledu yn y ddwy flynedd ddiwethaf - er mwyn i’r tiwtoriaid roi adborth arnynt yn y sesiynau.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?