S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pum enwebiad BAFTA Cymru i Y Gwyll/Hinterland ymhlith rhestr sy'n glod i amrywiaeth arlwy S4C

26 Awst 2015

  Mae'r ddrama dditectif sydd wedi dwyn sylw'r byd, Y Gwyll/Hinterland wedi ei henwebu am bum gwobr BAFTA Cymru, sy'n rheswm arall i ddathlu wrth i ni nesáu at ddarllediad cyntaf yr ail gyfres hir ddisgwyliedig ar S4C nos Sul 13 Medi am 9.00.

Mae pennod arbennig Y Gwyll, a ddarlledwyd ar S4C ddydd Calan, wedi ei henwebu am bum gwobr yn cynnwys categori y Ddrama Teledu gorau, ble mae enwebiad hefyd ar gyfer Y Streic a Fi (Alfresco – cyfadran o Boom Cymru).

Mae enwebiad Actores Orau i Mali Harris, am rôl DI Marred Rhys, ac Actor Gorau i Richard Harrington, am rôl arwr y gyfres, DCI Tom Mathias. Mae hefyd enwebiadau i dîm cynhyrchu Fiction Factory ar gyfer Sain ac am y Teitlau a Hunaniaeth Graffeg.

Mae actorion o gynyrchiadau drama eraill S4C wedi hawlio enwebiad am eu perfformiadau yn cynnwys Rhian Morgan am rôl Gwen Lloyd yn Gwaith/Cartref (Fiction Factory) a Rhys Ifans fel Capten Cat yn Dan y Wenallt (fFati fFilms).

Gyda'i gilydd, ymhlith y 31 o enwebiadau i gynyrchiadau S4C, mae'r sianel wedi derbyn 15 ar gyfer chwech o'i dramâu; Y Gwyll/ Hinterland, Gwaith/Cartref, Dan y Wenallt, Tir (Joio), Y Streic a Fi, a Cara Fi (Touchpaper). Maent yn cynnwys enwebiadau am y Dramâu Teledu gorau, yn ogystal ag Actorion, Awduron, Cyfarwyddwr, Cerddoriaeth, Gwisgoedd, Sain, Ffotograffiaeth a Goleuo.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C: "Rydw i'n falch iawn o weld amrywiaeth eang o raglenni S4C yn cael eu cynnwys ar restr enwebiadau BAFTA Cymru 2015, gyda sawl cynhyrchiad drama ragorol fel Y Gwyll/Hinterland yn arwain y gad. Mae clod mawr i'r cwmnïau cynhyrchu am eu gwaith diflino yn creu cynnwys sy'n feiddgar, yn greadigol ac yn magu chwilfrydedd. Mae gwobrau BAFTA Cymru yn flynyddol yn arddangos y diwydiannau creadigol yng Nghymru ar eu gorau, a dyw'r rhestr enwebiadau eleni ddim yn siomi, gyda rhaglenni S4C yn amlwg iawn yn eu canol nhw. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi eu henwebu."

Ynghyd â drama, mae'r rhestr enwebiadau yn cynnwys amrywiaeth sy'n adlewyrchu'r ystod eang o raglenni sy'n cael eu dangos ar S4C.

Mae cynyrchiadau S4C yn hawlio dau enwebiad yn y categori Rhaglen Blant; ble mae #Fi (Boom Plant) a Llan-ar-goll-en (Cwmni Da/Cynyrchiadau Twt) wedi ei cynnwys gyda chyfres BBC Cymru Wizards vs Aliens.

Yn y categori Materion Cyfoes mae Y Sgwrs: Ysbyty Dan Bwysau (BBC Cymru) a hefyd Y Byd ar Bedwar: Y Felan a Fi (ITV Cymru). Mae Ymosodiad Paris: Newyddion Arbennig (BBC Cymru) wedi ei henwebu am wobr Darllediadau Newyddion.

Yn y maes ffeithiol hefyd mae enwebiad yn y categori Gwobr Torri Drwodd i Owen Davis am y rhaglen Gohebwyr: Owen Davis (Cwmni Da), ac mae'r ddogfen ddirdynnol Malcolm Allen: Cyfle Arall (Rondo Media) wedi ei henwebu ddwy waith: Cyfarwyddwr: Ffeithiol a Dogfen Sengl.

Mae cyfres Adam Price a Streic y Glowyr (Tinopolis) wedi ei henwebu yn y categori Cyfres Ffeithiol, sy'n glod pellach yn dilyn ennill Gwobr Efydd yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2015, ym mis Ebrill.

Mae enwebiad Adloniant i'r rhaglen boblogaidd Dim Byd (Cwmni Da) sy'n gobeithio am ei hail wobr BAFTA Cymru. Mae Karl Jenkins Pencerdd Penclawdd (Rondo Media) wedi ei henwebu am Adloniant ac am Ffotograffiaeth Ffeithiol ac mae Caryl a'r Lleill (Alfresco - cyfadran o Boom Cymru) wedi ei henwebu am Golur a Gwallt.

Mae'r gêm rygbi Clwb Rygbi: Scarlets v Ospreys (BBC Wales Sport) a darllediadau Y Sioe (Boom Cymru) o Sioe Frenhinol Cymru, wedi ei henwebu am Chwaraeon a Darllediad Allanol.

I'r dramâu sydd ar y rhestr, mae dau enwebiad Awdur: Roger Williams ar gyfer Tir a Gwyneth Lewis ar gyfer Y Streic a Fi. Mae Y Streic a Fi hefyd wedi henwebu am wobr Drama Gorau, a Chyfarwyddwr: Ffuglen, gyda Tir hefyd wedi ei henwebu am Ffotograffiaeth a Goleuo.

Mae Cara Fi wedi ei henwebu yn y categorïau Dylunio Gwisgoedd a Cherddoriaeth Wreiddiol. Ac yn ogystal ag enwebiad i Rhys Ifans am yr Actor Gorau, mae Kevin Allen wedi ei enwebu am Cyfarwyddwr: Ffuglen ar gyfer Dan y Wenallt sydd hefyd wedi hawlio enwebiad am Gerddoriaeth Wreiddiol.

Mae rhestr lawn yr enwebiadau ar gael ar wefan Gwobrau BAFTA Cymru 2015

Diwedd 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?