S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Llwyddiant S4C yng Ngwobrau BAFTA Cymru

28 Medi 2015

Mae S4C yn dathlu derbyn 13 o wobrau BAFTA Cymru yn dilyn noson lwyddiannus yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant, neithiwr (nos Sul, 27 Medi).

Fe hawliodd y ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland, sydd â'i hail gyfres ar S4C ar hyn o bryd, ddwy wobr BAFTA Cymru, gyda Richard Harrington yn ennill gwobr yr Actor Gorau am ei bortread o'r ditectif angerddol a chymhleth, DCI Tom Mathias. Daeth y gyfres hefyd i'r brig yng nghategori Teitlau a Hunaniaeth Graffeg.

Mae'r gyfres, sy'n gynhyrchiad gan Fiction Factory ac yn cael ei ffilmio ar leoliad yng Ngheredigion, bellach wedi cael ei dangos mewn 26 o wledydd. Fe gipiodd Richard Harrington, sy'n wreiddiol o Ddowlais, Merthyr, wobr yr Actor Gorau, gyda Rhys Ifans a Peter Capaldi hefyd wedi eu henwebu yn y categori.

Rhian Morgan yw enillydd gwobr yr Actores Orau am ei rôl fel Gwen Lloyd yn y gyfres ddrama Gwaith/Cartref, cynhyrchiad arall gan Fiction Factory ar gyfer S4C. Yn wreiddiol o Gwm Tawe, a bellach yn byw yn Llandeilo, fe wobrwywyd Rhian Morgan am ei phortread o'r athrawes ganol oed hoffus mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd, cymeriad oedd wedi llwyddo i gadw ei hiwmor a'i charedigrwydd er gwaethaf cymhlethdodau bywyd.

Daeth dau o gynyrchiadau S4C i gofio 30 mlynedd ers Streic y Glowyr 1984-85 i'r brig mewn pedwar categori. Fe enillodd Adam Price a Streic y Glowyr (cynhyrchiad Tinopolis) wobr y Gyfres Ffeithiol orau yn ogystal ag anrhydedd Gwobr Gwyn Alf Williams. Y ddrama Y Streic a Fi (cynhyrchiad Alfresco, rhan o Boom Cymru) ddaeth i'r brig yn y categori Drama Teledu, gyda'r cyfarwyddwr uchel ei barch Ashley Way yn derbyn y wobr Cyfarwyddwr Ffuglen.

Roedd y gyfres Adam Price a Streic y Glowyr yn dilyn y gwleidydd o Ddyffryn Aman ar daith bersonol a gwleidyddol; o'i ardal enedigol ble roedd ei rieni at flaen y gad yn y frwydr i achub y pyllau glo, i galon San Steffan a hefyd i ymweld â chymunedau glofaol eraill ar draws Prydain i geisio canfod beth oedd wrth wraidd y streic a pham y gwnaeth y glowyr golli'r frwydr. Mae'r gyfres eisoes wedi derbyn sawl anrhydedd yn cynnwys Cyfres Ffeithiol orau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2015 a Gwobr Efydd yng Ngwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2015.

Y Streic a Fi oedd sgript ddrama teledu gyntaf y bardd a'r awdur Gwyneth Lewis. Wedi ei seilio ar nofel Phillipa Davies, o'r enw The Gritties, mae'n darlunio'r streic drwy lygaid merch sydd yn ei harddegau.

Enillydd gwobr BAFTA Cymru i'r Awdur Gorau oedd Roger Williams am ei ddrama bwerus Tir, sy'n darlunio teulu ar chwâl yng nghefn gwlad Cymru.

Roedd rhaglenni plant S4C hefyd yn amlwg yn y gwobrau, gyda'r gyfres #Fi (Boom Plant), sy'n portreadu profiadau amrywiol plant yng Nghymru, yn ennill y wobr am y Rhaglen Blant orau. Mae cyfres newydd yn cael ei dangos ar S4C ar hyn o bryd, bob nos Fercher yn rhan o arlwy Stwnsh i bobl ifanc 7-13 oed.

Daeth y gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar (ITV Cymru) i'r brig am y drydedd flwyddyn yn olynol yn y categori Materion Cyfoes, y tro hwn am y rhaglen ddogfen bwerus Y Felan a Fi, tra enillodd tîm Newyddion 9 (BBC Cymru Wales) y wobr Darllediad Newyddion am eu hadroddiadau o ymosodiadau terfysg Paris yn gynharach eleni.

Enillodd y gyfres sgetsus Dim Byd (Cwmni Da) y wobr am y rhaglen adloniant orau, a hithau eisoes wedi dod i'r brig yn yr un categori yng ngwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2015, tra enillodd Boom Cymru wobr Chwaraeon a Darllediad Allanol Byw gorau ar gyfer eu hymdriniaeth o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu;

"Llongyfarchiadau i bawb am eu llwyddiant yng ngwobrau'r BAFTA’s neithiwr a hynny ar draws sawl genre. Mae hyn yn brawf pendant o’r dalent aruthrol sydd yn y sector gynhyrchu annibynnol ac yn BBC Cymru a ITV Wales. Mae’r braf hefyd fod safon darpariaeth gynnwys S4C yn cael eu cydnabod yn y fath fodd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?