S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dim ond y Gwir am lysoedd barn y gogledd

30 Medi 2015

  Mae cyfres ddrama newydd, sydd wedi ei seilio mewn llys barn ddychmygol yng ngogledd orllewin Cymru, yn cael ei ffilmio ar leoliad yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

Mae Dim ond y Gwir yn rhan o dymor cyffrous o ddramâu ar S4C a byddwn yn dilyn gweithwyr Llys Barn wrth eu bywyd yn y gwaith a hefyd yn gymdeithasol, ar nosweithiau Mercher, o 4 Tachwedd ymlaen.

Mae’r gyfres ddrama 12 pennod yn cael ei ffilmio yng Nghaernarfon gan gwmni cynhyrchu llwyddianus Rondo Media; ac mae set bwrpasol newydd wedi ei hadeiladu ym Mharc Menai ac yn stiwdio Rondo ar stad ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon. Mae'r ddrama wedi ei ffilmio ar draws y dref, a doc Caernarfon, a bydd golygfeydd o'r dref a'r Fenai i'w gweld yn ystod y gyfres.

Mae’r cwmni cynhyrchu wedi denu cast pwerus o actorion profiadol ac wynebau newydd i S4C, gan gynnwys Rebecca Trehearn, Geraint Morgan, Siôn Pritchard ac Ioan Hefin.

Mae hi'n addas iawn fod y ddrama gyfreithiol yn cael ei ffilmio yng Nghaernarfon, gan ei bod yn dref â llys barn o bwysigrwydd mawr yng Nghymru lle y clywir achosion llys trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe fydd chwe achos i gyd yn y gyfres gyda dwy raglen wedi’u neilltuo i bob achos.

Bydd yr achosion yn cynnwys llofruddiaeth, trais, llosgi bwriadol, puteindra, lladrata ac ewthanasia.

Meddai Comisiynydd Cynnwys Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd

"Mae’r gyfres yn gymysgedd afaelgar o achosion llys sy’n trafod pynciau perthnasol a difyr a chymeriadau cofiadwy. Mae gan y timau sgriptio a chynhyrchu brofiad helaeth o greu dramau pwerus a difyr."

Susan Waters yw Uwch gynhyrchydd y ddrama ac wedi bod yn rhan o’r tîm creu ar gyfer Dim ond y Gwir. Mae’r storïwr adnabyddus Rob Gittins, wedi arwain y tîm sy’n llunio straeon y gyfres. Mae o wedi llunio straeon cyfresi poblogaidd fel Heartbeat a Soldier Soldier.

"Mae dod â chast a chriw newydd at ei gilydd yma yng Nghaernarfon wedi bod yn gyffrous ac yn her i ni gyd. Mae natur y gyfres yn golygu y bydd nifer o actorion newydd a chyfarwydd i’w gweld dros y deuddeg wythnos. Gobeithio y bydd y gwylwyr yn mwynhau’r straeon a chwarae rôl aelod o’r rheithgor wrth eistedd gartref yn gwylio’r achosion unigol."

Nodiadau i’r golygydd:

1. Mae gan Sue Waters dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn gweithio ar ddramâu yn y theatr ac i deledu. Yn wreiddiol o Rymni, mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon ers 1984. Mae Sue wedi cyfrannu llawer at ddramâu’r gogledd, yn gadeirydd cwmni cynhyrchu Rondo Media ers saith mlynedd. Hi oedd un o sylfaenwyr yr opera sebon Rownd a Rownd, ac un o gynhyrchwyr y gyfres boblogaidd Amdani.

2. Mae Rob Gittins wedi arwain y tîm sydd wedi llunio straeon y gyfres Dim ond y Gwir, mae ganddo CV arbennig, ac wedi ysgrifennu ar gyfer rhai o ddramâu amlycaf Prydain, fel Casualty, The Bill, EastEnders, Emmerdale,

3. Mae prif actores Dim ond y Gwir Rebecca Trehearn, yn dod yn wreiddiol o'r Rhyl ond bellach yn byw yn Llundain. Mae Rebecca wedi hen sefydlu fel actores yn y West End, gan serennu mewn sioeau fel We Will Rock You, Dirty Dancing, Love Story, Ghost a City of Angels. Ond Dim ond y Gwir fydd profiad cyntaf Rebecca o actio ar y teledu - a hefyd o actio yn y Gymraeg.

Mae Rebecca yn portreadu Karen, sy'n fargyfreithwraig bwerus a deniadol.

Yn Dim ond y Gwir mae gan Karen fywyd carwriaethol eithaf cymhleth. Mae Iestyn - cyn gariad Karen yn dychwelyd i'w bywyd, mae o hefyd yn fargyfreithiwr - sy'n peri ychydig o drafferth iddi hi yn y llys! Bydd digon o ddrama i'w weld felly wrth i Karen ddod i delerau â'i gorffennol.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?