S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Labordy: Hyfforddiant arloesol i gyfarwyddwyr yng Nghymru

17 Gorffennaf 2017

CYHOEDDIAD FFILM CYMRU WALES

Cafodd ffilm, teledu a theatr Gymraeg Cymru hwb wrth i bedwar cyfarwyddwr addawol gychwyn ar hyfforddiant wedi'i deilwra drwy Y Labordy.

Bydd y lab traws lwyfan ar gyfer cyfarwyddwyr sy’n codi yn cael ei ddarparu gan Ffilm Cymru Wales mewn partneriaeth ag S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru drwy eu rhaglen dalent newydd BFI NETWORK Wales sy’n cael ei hariannu gan Sefydliad Ffilm Prydain.

Y pedwar llwyddiannus sy’n cymryd rhan yw:

Mared Swain, Cyfarwyddwr Artistig arobryn Cwmni Theatr Neontopia a chyn Gyfarwyddwr Cynorthwyol The Other Room, Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru. Ar hyn o bryd, mae Mared yn gweithio yn y Fiction Factory fel Cynhyrchydd Stori ar y gyfres nesaf o Gwaith Cartref ar gyfer S4C.

Mae Eilir Pierce yn wneuthurwr ffilmiau llawrydd sydd wedi cyfarwyddo rhaglenni dogfen teledu ar gyfer BBC Wales ac S4C. Yn ddiweddar, bu'n gwneud fideos ar gyfer rhai o gerddorion gorau Cymru gan gynnwys Euros Childs, Sweet Baboo, 9 bach, Georgia Ruth, HMS Morris, R Seiliog a Meilyr Jones. Mae Eilir yn gweithio ar hyn o bryd ar sgript ffilm gydag awdur Y Llyfrgell, Fflur Dafydd, ac yn datblygu sgript ffilm ddeg rhan, arbrofol ar gyfer y we.

Hanna Jarman, sydd wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yr arweiniodd ei gyrfa actio hi i fod yn Artist Cynorthwyol ac yn Gyfarwyddwr Theatr Not Too Tame, ble mae'n gweithio ar hyn o bryd ar ddatblygu gwaith yn y Gymraeg a hefyd ar ysgrifennu prosiectau a allai fod ar gyfer y teledu.

Mae Nico Dafydd yn ysgrifennwr – gyfarwyddwr o orllewin Cymru y mae ei waith yn amrywio o ffilm i’r theatr, teledu, radio, cyfresi gwe a fideos cerdd. Enillodd ei ffilm gyntaf fel myfyriwr wobr y Ffilm Orau yn y Gymraeg yng Ngŵyl Ffresh 2011. Erbyn hyn, mae Nico’n gweithio ar ffilm nodwedd newydd ac ar gyfres i BBC Radio Cymru yn ogystal â darlithio yn y cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae’r pedwar erbyn hyn yn rhan o raglen wedi'i theilwra o weithdai, dosbarthiadau meistr, cyfleoedd cysgodi gartref a thramor a mentora gan gyfarwyddwyr profiadol.

Daeth penwythnos gyntaf Y Labordy i ben gyda dosbarth meistr gydag Euros Lyn (Y Llyfrgell, Broadchurch), Rachel Talalay (Sherlock, Doctor Who), Arwel Gruffydd (Theatr Genedlaethol) a Vicky Jones (Fleabag).

Meddai Rheolwr Talent NETWORK Ffilm Cymru Wales, Tracy Spottiswoode, “Rydym wrth ein bodd yn gweld cyfarwyddwyr talentog yn datblygu eu gyrfaoedd a chlywed lleisiau gwahanol wneuthurwyr ffilm yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae mwy na thraean o wneuthurwyr ffilm sy’n gweithio yn ein cronfa dalent newydd yn siarad Cymraeg ac mae’r rhan fwyaf yn gweld eu hunain yn ferched. Rydyn ni wedi gweld manteision hyfforddiant wedi’i deilwra a mentora drwy fentrau BFI NETWORK Cymru sy’n arwain gwneuthurwyr ffilm cartref at lwyddiant penigamp.

Mae ysgrifenwyr Cymraeg sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen Y Labordy wedi symud ymlaen i lwyddo mewn sawl maes gwahanol; ysgrifennodd a chynhyrchodd Fflur Dafydd addasiad ar gyfer y sinema o‘i nofel Y Llyfrgell / The Library Suicides, gyda chefnogaeth Ffilm Cymru Wales; mae Dafydd James wedi ysgrifennu cynyrchiadau theatr a cherddorol ar gyfer Canolfan y Mileniwm Cymru, Sherman Cymru a BBC Radio 4 ac mae’n datblygu prosiect gyda chwmni cynhyrchu Ridley’s Scott; ysgrifennodd Bethan Marlow waith theatr ar gyfer Canolfan y Mileniwm Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac roedd yn ysgrifennu’r sgript ar gyfer ffilm fer Caryl Lewis, Afiach, ar gyfer Straeon Iris, cynllun LGBTQ Cymraeg ac mae Jon Gower ar fin cyhoeddi dau lyfr, gan gynnwys nofel Gymraeg 'Y Duwch' sydd i'w chyhoeddi gan y Lolfa.

"Mae'n bwysicach nag erioed fod ein cyfarwyddwyr gorau sy'n ymddangos yn gallu gweithio ar draws sawl llwyfan - mewn theatr, teledu, ffilm ac ar lein – er mwyn llwyddo yn eu gyrfâu ac i wneud yn siŵr fod dramâu Cymraeg yn dylanwadu ymhell tu hwnt i’w nifer yn rhyngwladol” meddai Nicholas Davies, Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. “Mae’r Labordy yn gyfle unwaith mewn oes i'r cyfarwyddwyr hyn ddysgu gan arweinwyr gorau'r byd yn y diwydiant”.

Ac ychwanegodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys yn S4C, "Rydyn ni’n falch fod y cynllun yn un mor uchelgeisiol ac allwn ni ddim byw yn ein croen i weld y gwaith y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn ei gynhyrchu yn y dyfodol wrth i’w gyrfâu ddatblygu”.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?