S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn croesawu ariannu Ffi'r Drwydded ar gyfer 2017/18

17 Chwefror 2016

Mae S4C wedi croesawu'r cyhoeddiad heddiw (Mercher 17 Chwefror) y bydd yr arian sy'n cael ei ddarparu i'r sianel drwy ffi'r drwydded yn parhau ar yr un gyfradd ar gyfer 2017/18 ag y bydd ar gyfer 2016/17, sef £74.5miliwn.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones; "Rydym yn croesawu'r newydd yma ynglŷn â'n cyllideb ni sy'n deillio o ffi'r drwydded, sydd yn golygu y bydd y cyllid yn aros yn sefydlog ar gyfer 2017/18. Mae hyn yn gam cadarnhaol ac ymarferol ymlaen yn dilyn cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol ar 3 Chwefror i gadw'r arian sy’n dod yn uniongyrchol gan y Llywodraeth ar yr un lefel ar gyfer 2016/17 ac y mae ar gyfer 2015/16.

"Mae rhewi ein cyllideb nes bod adolygiad o anghenion y gwasanaeth wedi ei chynnal yn egwyddor rydym ni ac aelodau seneddol o bob plaid wedi bod yn galw amdani.

"Edrychwn ymlaen at barhau â'r berthynas weithredol a strategol gadarnhaol gyda'r BBC dros y blynyddoedd sydd i ddod."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?