S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pedwar enwebiad Gwobrau Rhyngwladol Efrog Newydd i S4C

19 Chwefror 2016

Mae clod rhyngwladol eto eleni i gynnwys S4C yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2016 gyda phedair rhaglen wedi eu henwebu am y gwobrau.

Wedi ei enwebu am wobr Plant/Ieuenctid mae Llond Ceg, cynhyrchiad Green Bay Media, sy'n mynd i'r afael â phynciau sy'n poeni pobl ifanc. Yn y categori Chwaraeon a Hamdden mae'r ffilm am y dringwyr Eric Jones ac Ioan Doyle; Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle, cynhyrchiad Boom Cymru.

Mae Y Gwyll/Hinterland wedi ei enwebu am wobr Drama Drosedd; y tro hwn ar gyfer yr ail gyfres a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ym mis hydref 2015. Roedd y gyfres yn gynhyrchiad gan Fiction Factory ac wedi ei hariannu gan y partneriaid S4C a BBC Cymru Wales, gydag all3media International, Tinopolis a Chyllid Busnes Cymreig hefyd yn cyfrannu.

Ac yn y categori Materion Cenedlaethol/Rhyngwladol mae'r ddogfen Dagrau o Waed: Rhyfel Corea, cyd-gynhyrchiad rhwng S4C, Awen Media a JTV yng Nghorea. Mae hon yn un o nifer o raglenni sydd wedi eu creu yn rhan o bartneriaeth â sianel Jenonju Television.

Mae'r enwebiadau yn destun balchder mawr i S4C, meddai'r Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu, Dafydd Rhys, ac mae'n brawf o fentergarwch y sianel wrth fanteisio ar gyfleoedd i arddangos ei chynnwys ar draws y byd a chyd weithio gyda chwmnïau rhyngwladol.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C; "Mae'r enwebiadau eleni, y nifer uchaf eto i S4C yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd, yn destun balchder mawr ac yn glod i'r sector gynhyrchu hynod greadigol a thalentog yng Nghymru.

"Mae cyfleodd i ddathlu cynnwys Cymru ar lwyfan rhyngwladol ac i gyd-weithio a chwmnïau o amgylch y byd yn arbennig o bwysig i S4C. Mae cyd-gynyrchiadau nid yn unig yn fodd o dargedu prosiectau mwy uchelgeisiol, a phrosiectau na fydden ni fel arall yn gallu ei fforddio, maen nhw hefyd yn codi proffil S4C, Cymru a'r iaith Gymraeg. Mae enwebiadau am wobrau rhyngwladol fel hyn yn goron ar y cyfan. Llongyfarchiadau i bawb ar yr enwebiadau."

Dwy raglen arall sy'n deillio o'r berthynas gyda JTV yng Nghorea yw'r ddogfen newydd Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam (Rondo Media) ar S4C nos Sul 28 Chwefror 9.00, a Gohebwyr: John Hardy am Ryfel Corea, hefyd gan Rondo Media, a ddarlledwyd yn 2015. Yn dilyn llwyddiant y prosiectau, a'r enwebiad i Dagrau o Waed: Rhyfel Corea, mae cynlluniau uchelgeisiol ar droed ar gyfer parhau â'r berthynas werthfawr rhwng S4C a JTV.

Mae S4C wedi profi llwyddiant yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd yn y blynyddoedd diweddar. Yn 2015 roedd medal Efydd i Adam Price a Streic y Glowyr (Tinopolis) a medal Arian i Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (Telesgop). Yn 2014 fe enillodd Taith Fawr y Dyn Bach (Cwmni Da) Wobr Arian, a'r rhaglen Karen (Cwmni Da) Wobr Efydd. Ac yn 2013 roedd Gwobr Aur i Fy Chwaer a Fi (Bulb Films, rhan o Boom Pictures Cymru).

Mae gobaith am ragor o fedalau eleni pan fydd seremoni Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2016 yn cael ei chynnal yn Las Vegas ar 19 Ebrill, 2016.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?