S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Adroddiad Blynyddol 2016/17 - Estyn cynulleidfaoedd ar lwyfannau newydd er mwyn i'r sianel a'r iaith Gymraeg ffynnu

18 Gorffennaf 2017

  Mae ymdrechion S4C i gyrraedd cynulleidfaoedd ar lwyfannau newydd yn gweithio, sy'n newyddion da i'r sianel ac i'r iaith Gymraeg, meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol y sianel ar gyfer 2016/17.

Mae copi llawn Adroddiad Blynyddol S4C 2016/17 ar gael ar-lein

Mae'r adroddiad, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth 18 Gorffennaf), yn dangos fod y cynnydd o ran y defnydd o wasanaethau ar-lein S4C ar draws y DU wedi parhau eto yn ystod 2016/17, ond gyda phatrymau newydd yn datblygu wrth i S4C gynnig rhaglenni a chynnwys ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter, yn ogystal â llwyfannau gwylio fel s4c.cymru a BBC iPlayer. Ar Facebook, Twitter ac YouTube cafwyd dros 18 miliwn o sesiynau gwylio i gynnwys S4C, ac ar yr un pryd, mae gwylio ar deledu wedi parhau'n sefydlog flwyddyn ar flwyddyn, ond gyda chynnydd yn nifer y gwylwyr Cymraeg eu hiaithꜞ.

"Roedd hi'n galonogol gweld cynnydd yn nifer y gwylwyr yng Nghymru sy'n troi i mewn i'r sianel bob wythnos, ac yn arbennig felly'r nifer o siaradwyr Cymraeg sy'n gwneud hynny.

"Gyda hynny mae'r cynnydd trawiadol yn y defnydd o gynnwys S4C ar lwyfannau megis Facebook yn arwydd o'r ymdrechion amlwg gan S4C, gan gydweithio â'i bartneriaid yn y sector annibynnol, i fanteisio ar y cyfleoedd newydd yma," meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, wrth ddadansoddi blwyddyn a oedd yn cynnwys sawl uchafbwynt i'r sianel, ac sydd wedi ennill gwerthfawrogiad gan wylwyr am gryfderau uwchlaw sianeli eraill wrth adlewyrchu Cymru a'i phobl.

Roedd dangos gemau Cymru yn Ewro 2016 yn fyw yn ddigwyddiad mawr, ac yn destun balchder a gorfoledd. Tra bod cofio 50 mlynedd ers trychineb Aberfan wedi uno'r genedl mewn ffordd wahanol, gyda S4C yn comisiynu darn corawl Cantata Memoria fel teyrnged barhaol i'r gymuned.

Tra bod y ddau ddigwyddiad pwysig yma, ynghyd â nifer o uchafbwyntiau eraill, wedi denu gwylwyr ar deledu, gwelwyd fod pobl yn cysylltu â'r cynnwys drwy ddulliau gwahanol. Cafodd fideo carfan Cymru yn diolch i'r cefnogwyr ei gwylio 181,646 o weithiau ar Facebook, a darn o'r gwaith corawl Cantata Memoria hefyd ymhlith ugain uchaf y flwyddynꜞꜞ ar gyfryngau cymdeithasol.

"Mae ein gweithgareddau gyda chyfryngau cymdeithasol wedi galluogi niferoedd cynyddol o bobl i ymwneud â chynnwys. Pan mae fideo yn cael ei chwarae bron 200 mil o weithiau, fel y digwyddodd yn achos ein fideo o chwaraewyr pêl-droed Cymru yn dweud diolch, mae'n rhaid bod nodyn cywir yn cael ei daro," meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, sy'n ystyried comisiynu'r gwaith corawl er cof am Aberfan fel digwyddiad mwyaf ei gyfnod gyda'r sianel.

"Roedd yn fraint i mi gael comisiynu a darlledu gwaith rhagorol Syr Karl Jenkins a Mererid Hopwood, Cantata Memoria – digwyddiad emosiynol tu hwnt. Bydd bod yn rhan o'r digwyddiad hwn yn aros gyda fi am byth," meddai Ian Jones, sy'n rhoi gorau i'w rôl ddiwedd mis Medi eleni.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae'r Cadeirydd Huw Jones yn pwysleisio fod yn "rhaid i'r Gymraeg gael ei gweld a'i defnyddio ar y cyfryngau torfol mwyaf cyfoes os ydyw am ffynnu" a bod rôl S4C, yn ogystal â darparu "gwasanaeth teledu traddodiadol cyfoethog", yn allweddol.

Wrth ddisgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ynghylch cynnal Adolygiad Annibynnol o S4C, mae Huw Jones yn gweld cynnal yr adolygiad fel cyfle i ddiffinio gwasanaeth S4C yn nhermau darparu cynnwys ar amrywiaeth o blatfformau, ac i sefydlogi trefn ariannol yn y tymor hir.

"Un o'n gobeithion mawr o ganlyniad i'r adolygiad yw y ceir cytundeb ynglŷn â pha broses y bydd y Llywodraeth yn ei dilyn wrth bennu cyllid digonol ar gyfer S4C. Rydym hefyd yn pwysleisio fod angen diffinio'r gwasanaeth yn nhermau darparu cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau ym mha bynnag ffurf sydd yn briodol, tra ar yr un pryd yn dal i ddarparu gwasanaeth teledu traddodiadol. Mae'n rhaid i'r cynnwys creadigol Cymraeg sy'n cael ei ariannu gan S4C fod ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio mor eang ag y mae technoleg yn ei ganiatáu ac rydym yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn y gwaith yma yn y blynyddoedd i ddod," meddai Huw Jones, Cadeirydd S4C.

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Mae copi llawn Adroddiad Blynyddol S4C 2016/17 ar gael ar-lein

Mae S4C wedi cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2016/17 ger bron Senedd y DU yn San Steffan a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

ꜞ Cynnydd o 7% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru sy'n gwylio yn ystod wythnos gyffredin. (Tudalen 66)

ꜞꜞ Cyngerdd Aberfan: Promo "Marwnad y Cwm" – 50,810 o sesiynau gwylio. (Tudalen 69)

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?