S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Penodi Garffild Lloyd Lewis i Gabinet Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy

13 Gorffennaf 2017

Mae Garffild Lloyd Lewis wedi bod yn gweithio ar gytundeb tair blynedd fel Cyfarwyddwr Adleoli S4C yn arwain y gwaith o adleoli pencadlys S4C o Gaerdydd i Gaerfyrddin. Mae’r cytundeb hwnnw yn dod i ben ym mis Tachwedd eleni a bydd Garffild yn gadael S4C bryd hynny.

Yn y cyfamser mae o wedi cael ei benodi i Gabinet Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy a rhwng nawr a mis Tachwedd fe fydd yn rhannu ei amser rhwng y ddau sefydliad. Mae polisïau cyflogaeth S4C yn caniatáu i staff fod yn Gynghorwyr Sir, a bydd unrhyw amser y mae Garffild yn ei dreulio ar waith y Cyngor yn cael ei wneud ar delerau absenoldeb di-dal o’i swydd gyda S4C.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C:

"Mae Garffild wedi bod yn arwain y prosiect i ddatblygu Canolfan S4C Yr Egin o'r diwrnod cyntaf, a nawr gyda’r adeilad ar ei draed a llawer o’r gwaith prosiect wedi ei gwblhau, hoffwn ddiolch iddo am ei gyfraniad a dymuno’r gorau wrth iddo ymgymryd a swydd a chyfrifoldebau newydd gyda Chyngor Conwy."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?