S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Croesawu canfyddiadau adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig

16 Mehefin 2016

Mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Materion Cymreig i bwysigrwydd S4C, i'r iaith Gymraeg ac i ddiwylliant ac economi Cymru.

Mae Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan wedi cyhoeddi adroddiad i Ddarlledu yng Nghymru, ddydd Iau 16 Mehefin, 2016.

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, "Rydym yn croesawu canfyddiadau a sylwadau'r Pwyllgor am S4C yn yr adroddiad ar Ddarlledu yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth S4C i'r iaith Gymraeg, i ddiwylliant Cymru ac i'r economi creadigol. Mae'n tanlinellu pwysigrwydd cynnal annibyniaeth S4C a sicrhau ariannu digonol i'r sianel i ganiatáu parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel. Mae casgliadau'r adroddiad yn amserol a byddant yn gyfraniad pwysig i’r adolygiad annibynnol ar S4C, pan gaiff hwnnw ei gynnal yn nes ymlaen."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?