S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Shakespeare yn y Gymraeg - ffilmiau ar gael i bawb ar-lein

30 Mehefin 2016

 Mae rhai o gampweithiau mwyaf Shakespeare nawr ar gael ar-lein am gyfnod cychwynnol o 12 mis, yn y Gymraeg ac ar ffurf ffilmiau animeiddiedig.

Bydd y ffilmiau lliwgar ar gael i bawb eu mwynhau ar wefan Addysg S4C ac mi fyddan nhw'n ddefnyddiol ar gyfer athrawon a disgyblion sy'n astudio gwaith y dramodydd byd-enwog.

Mae'r sianel wedi cyhoeddi chwe ffilm fer o rai o ddramâu enwocaf Shakespeare: Macbeth, Romeo a Juliet, Hamlet, Y Dymestl (The Tempest), Nos Ystwyll (Twelfth Night) a Breuddwyd Noswyl Ifan (A Midsummer Night’s Dream).

Cafodd y ffilmiau eu creu gan S4C ym 1992 yn rhan o gyd gynhyrchiad rhyngwladol. Ymhlith y lleisiau sy'n adrodd y straeon mae'r actores Sian Phillips ac mae'r casgliad o animeiddiadau yn un o glasuron dyddiau cynnar y sianel.

Nawr, mae'r ffilmiau wedi eu codi o'r archif a'u gosod ar-lein, i gyd-fynd â'r flwyddyn ddathlu 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant a Phobl Ifanc S4C; "Mae gwaith Shakespeare yn rhan greiddiol o addysg Llenyddiaeth Saesneg mewn ysgolion ar draws Cymru ac mae pwyslais arbennig ar ei ddylanwad eleni, 400 mlynedd ers ei farwolaeth. Mi fydd gallu mwynhau'r gwaith ar ffurf fer a lliwgar yn y Gymraeg yn help i gyflwyno'r stori mewn ffordd ddeniadol i ddisgyblion.

"Mae cefnogi addysg a darparu cynnwys sy'n ddefnyddiol at bwrpas addysgiadol hirdymor yn un o amcanion S4C ar gyfer y dyfodol. Mae'r ffilmiau animeiddio yma'n glasuron ac ymhlith rhai o berlau archif S4C. Felly, yn ystod y flwyddyn sy'n dathlu Shakespeare, rydym wedi dod â nhw allan o'r archif er mwyn ei rhannu gyda phawb ar ein gwefan."

Mae'r ffilmiau ar gael i'w gwylio ar alw ar wefan Addysg S4C. Mae modd hefyd eu gweld trwy Hwb, y llwyfan dysgu digidol cenedlaethol, http://hwb.wales.gov.uk

O rifedd a llythrennedd yn y blynyddoedd cynnar yng nghwmni Cyw a'i ffrindiau, i raglenni dogfen a materion cyfoes yn yr oriau brig, mae amserlen S4C yn llawn rhaglenni defnyddiol i athrawon. Yn ogystal â chefnogi gwylio rhaglenni ar-lein, mae ERA (Education Recording Agency) yn darparu trwyddedau sy’n caniatáu i athrawon recordio rhaglenni teledu a’u defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Mae hefyd modd i athrawon wneud cais am gopïau DVD o raglenni S4C at ddiben addysg. Cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C am ragor o wybodaeth s4c.cymru/cysylltu

Diwedd

Nodiadau: Mae mwy o wybodaeth am y drwydded ERA ar gael ar wefan www.era.org.uk

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?