S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gorymdaith tîm Cymru – yn fyw ar S4C

07 Gorffennaf 2016

Bydd cefnogwyr Cymru yn heidio i’r brifddinas brynhawn Gwener, 8 Gorffennaf i groesawu chwaraewyr y tîm pêl-droed cenedlaethol adref ar ôl eu hymgyrch arwrol ym mhencampwriaeth UEFA Euro 2016.

Ac, os nad ydych chi'n gallu bod yng nghanol Caerdydd i ddiolch i'r tîm am eu perfformiadau yn Euro 2016, fe fydd modd gwylio’r orymdaith fawr rhwng 4.00 a 5.30 yn fyw ar S4C.

Fe fydd y tîm yn teithio ar fws awyr agored o gwmpas y ddinas, gan ddechrau ger Castell Caerdydd a gorffen y tu allan i Stadiwm Caerdydd.

Mi fydd Heno yn darlledu yn fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd am 7.00, ble mae cyngerdd yn cael ei chynnal gyda’r band Manic Street Preachers ymysg y sêr.

Bydd y rhaglen Croesawu Tîm Pêl-droed Cymru yn dilyn taith y pared, gyda Rhodri Llywelyn yn cyflwyno ynghyd â thîm o ohebwyr, gan gynnwys Catrin Heledd fydd ar y bws gyda'r chwaraewyr. BBC Cymru fydd yn cynhyrchu’r rhaglen ar gyfer S4C.

S4C oedd yr unig ddarlledwr i ddangos holl gemau Cymru yn fyw yn ystod UEFA Euro 2016.

Fe lwyddodd Cymru i gyrraedd y rownd gynderfynol, gan guro Slofacia, Rwsia, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg yn yr ymgyrch hanesyddol. Fe ddaeth yr ymgyrch i ben pan gollodd y tîm i Bortiwgal o 2-0 nos Fercher.

Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford i longyfarch y tîm am eu perfformiad yn ystod yr ymgyrch.

Meddai Ian Jones, "Mae'r ymroddiad a'r angerdd mae'r tîm wedi ei ddangos ar y cae, ac oddi arni, i'w ganmol. Maen nhw wedi cynrychioli ei gwlad gyda balchder a gosod Cymru ar y map ymhlith holl wledydd Ewrop.

"58 mlynedd ers y tro diwethaf i Gymru gystadlu mewn prif gystadleuaeth bêl-droed, roedd cymryd rhan yn UEFA Euro 2016 yn ddigwyddiad hanesyddol i chwaraeon yng Nghymru. Rydych chi wedi rhagori ac wedi creu hanes fel y tîm cyntaf i gynrychioli Cymru mewn gêm gynderfynol, am y tro cyntaf erioed.

"Roedd twrnamaint UEFA Euro 2016 yn ddigwyddiad mor arwyddocaol i Gymru, roedd hi’n bwysig ei fod yn cael ei ddangos ar deledu yn nwy iaith y genedl.

"Roedd hi'n anrhydedd i S4C fod cefnogwyr ar draws y Deyrnas Unedig wedi gallu gwylio pob gêm Cymru yn fyw ac yn yr iaith Gymraeg ar y sianel genedlaethol."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?