S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cadarnhau gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018

31 Awst 2016

Mae ymgyrch tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd cystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA 2018 ar fin dechrau; ac mi fydd cefnogwyr ar draws y DU yn gallu dilyn y daith ar deledu rhad ac am ddim yn y Gymraeg gan y bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau pob gêm Cymru, yr holl ffordd i Rwsia.

Gyda'r llwyddiant yng nghystadleuaeth UEFA EURO 2016 yn atseinio yn y cof, bydd y tîm gobeithio am y dechrau gorau posib i'w hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2018 gyda buddugoliaeth yn erbyn Moldofa ar nos Lun 5 Medi, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd y gemau yn fyw ar Sky Sports ac uchafbwyntiau ar ITV. Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau estynedig o bob gêm Cymru am 10.30 o'r gloch yn hwyrach yr un noson.

Tîm profiadol Sgorio fydd yn cyflwyno'r uchafbwyntiau ar gyfer y 10 gêm ragbrofol. Yn cyflwyno bydd y triawd poblogaidd: y cyflwynydd Dylan Ebenezer a'r sylwebwyr Nic Parri a Malcolm Allen.

Mae S4C ar gael ar Freeview yng Nghymru, ac ar Sky, Freesat a Virgin yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Mae lluniau HD ar gael ar Sky a Freesat. Bydd yr uchafbwyntiau hefyd ar gael ar alw ar-lein ar s4c.cymru, BBC iPlayer, YouView a phlatfformau eraill.

Cymru v Moldofa yw gêm gyntaf y tîm rhyngwladol ers ymgyrch hanesyddol UEFA EURO 2016, a gobeithio cawn ddathlu buddugoliaeth er mwyn dechrau'r daith i Rwsia 2018 mewn steil.

Meddai Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C, "Bu'r haf yma yn un bythgofiadwy ar S4C, diolch i lwyddiant y tîm yn UEFA EURO 2016. Ry' ni wrth ein boddau ein bod ni yn gallu dilyn y tîm ar y daith yr holl ffordd at Cwpan y Byd FIFA 2018. Rydym yn edrych ymlaen at roi sylw llawn a thrylwyr i bob gêm, ac yn falch iawn fod y gemau ar gael i gefnogwyr yn yr iaith Gymraeg."

Wrth drafod cystadleuaeth UEFA EURO 2016, fe bwysleisiodd Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, bwysigrwydd sylwebaeth pêl-droed iaith Gymraeg, gan ddweud fod "sylwebaeth yn y Gymraeg ar S4C yn hollbwysig," i bêl-droed yng Nghymru.

Gwrthwynebwyr eraill Cymru yn y gemau rhagbrofol yn Group D yw Awstria, Georgia, Gweriniaeth Iwerddon a Serbia, sy'n gyfanswm o 10 gêm gartref ac oddi cartref.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?