S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cofio Aberfan - gwaith corawl newydd Syr Karl Jenkins yn deyrnged barhaol i gryfder y gymuned

02 Medi 2016

Ni fydd Cymru byth yn anghofio 21 Hydref 1966, y diwrnod pan lladdwyd 116 o blant a 28 o oedolion ym mhentref glofaol Aberfan. Ni fydd Cymru chwaith fyth yn anghofio cryfder a dewrder y gymuned glos honno, gan edmygu'r bobl leol am eu penderfyniad i ail-adeiladu eu cymuned, i frwydro am y gwir ac i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

Yn deyrnged barhaol i'r urddas a'r cryfder hwnnw, mae S4C wedi comisiynu darn o waith corawl trawiadol ac emosiynol gan y cyfansoddwr byd enwog Syr Karl Jenkins.

Mae Cantata Memoria yn ddarn trawiadol a theimladwy sydd â goleuni yn thema gwbl ganolog i'r gwaith. Mae'n cofio'r drychineb a'r rhai a gollodd ei bywyd ynddi, ond, ar yr un pryd, mae'n edrych tua'r dyfodol gyda gobaith. Mae'n destament i gadernid y gymuned sydd wedi adeiladu o'r newydd yn dilyn trasiedi, sydd wedi brwydro am gyfiawnder a throi tywyllwch yn oleuni.

Awdur y libreto yw'r Prifardd Mererid Hopwood, ac mae hi wedi cyfuno tair iaith - y Gymraeg, Lladin a'r Saesneg.

Mi fydd y cyfanwaith yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf mewn cyngerdd coffa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar nos Sadwrn 8 Hydref. Bydd y darllediad cyntaf ar deledu ar S4C y noson ganlynol, ar nos Sul 9 Hydref 7.30.

Heddiw hefyd cyhoeddwyd y bydd recordiad o'r gwaith ar gael i'w brynu o 7 Hydref 2016 ymlaen, wedi ei chyhoeddi gan Deutsche Grammophon.

Mae'n anrhydedd comisiynu'r darn newydd gan y cyfansoddwr Syr Karl Jenkins, meddai Prif Weithredwr S4C, yn deyrnged i gymuned hynod Aberfan.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; "Mae S4C yn falch o gomisiynu’r gwaith corawl hwn gan un o gyfansoddwyr pwysica’r byd, Syr Karl Jenkins. Mae'n destament gwirioneddol i bobl, sydd, yng ngeiriau’r bardd Mererid Hopwood, wedi llwyddo i edrych tuag at y "goleuni" tu hwnt i’r "tywyllwch y tu mewn"."

Fel llawer iawn o bobl yng Nghymru a thu hwnt, fe gafodd trychineb Aberfan argraff oes ar Ian Jones, oedd yn ddisgybl ysgol gynradd ar y pryd.

Meddai Ian Jones; "Roeddwn i’n grwt diniwed saith mlwydd oed yn byw rhyw 25 milltir i ffwrdd yn Nhreforys pan ddigwyddodd y trychineb, ac fe wnaeth y diwrnod adael argraff oes arna i; y colli bywyd enbyd, dewrder y gweithwyr achub a thristwch ac urddas y teuluoedd a'r gymuned leol.

"Ni fydd pobl Cymru byth yn anghofio 21 Hydref 1966 pan wnaeth glo gwlyb mwdlyd o domen gwastraff Glofa Merthyr Vale syrthio ar Ysgol Gynradd Pantglas. Yn fwy na dim arall, rydym yn parhau i edmygu penderfyniad y bobl leol i ail-adeiladu eu cymuned, yn enw’r rhai a gollodd eu bywydau mor greulon o ifanc.

"Mae Cantata Memoria yn deyrnged barhaol i'r gymuned a Chymru gyfan i gofio Aberfan am byth."

Mae Cantata Memoria a'r gyngerdd goffa wedi eu comisiynu gyda chydweithrediad llwyr Elusen Goffa Aberfan. Mae S4C yn falch o gydweithio gyda'r holl bartneriaid - Canolfan Mileniwm Cymru, Rondo Media, MR PRODUCER, ac Universal Music - er mwyn creu digwyddiad teilwng i gofio a thalu teyrnged, a rhoi llwyfan i'r digwyddiad ar y sianel deledu genedlaethol.

Meddai Ian Jones, "Gan weithio'n agos gyda nifer o bartneriaid allweddol, gan gynnwys y gymuned leol ac Elusen Goffa Aberfan, Syr Karl Jenkins, y bardd Mererid Hopwood, Canolfan Mileniwm Cymru a’r cwmni cynhyrchu Rondo Media, rydym yn gobeithio darparu darllediad sy’n rhoi’r llwyfan gorau posibl i premiere sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol."

Mae tocynnau ar gael ar gyfer y gyngerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 8 Hydref, i'w prynu ar wefan y Ganolfan:

Bydd Cantata Memoria ar gael i'w phrynu, ar CD ac ar bob llwyfan digidol, o 7 Hydref ymlaen gan Universal Music.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?