S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pryd fydd Y Gwyll yn ôl ar y sgrin? Datgelu'r ateb heddiw!

20 Medi 2016

Does dim angen i ddilynwyr Y Gwyll/Hinterland aros yn hwy i wybod pryd bydd ei hoff gyfres ddrama yn ôl ar y sgrin. Y dyddiad i'w gofio yw nos Sul 30 Hydref am 9.00 ac S4C yw’r lle cyntaf ar draws y DU i’w weld. Bydd achosion newydd yn cael eu datrys a hen achosion yn dod i’r wyneb unwaith eto.

I ychwanegu at y cynnwrf, heddiw mae S4C hefyd wedi rhyddhau clip o'r gyfres newydd am y tro cyntaf, gyda golwg ecsgliwsif o'r ddrama sydd i ddod.

Mae'r olygfa yn llawn tensiwn. Mewn ystafell holi llwm, mae DS Sian Owens (Hannah Daniel) yn gofyn cwestiynnau anodd i’w cyn bennaeth DCI Tom Mathias (Richard Harrington) wrth geisio darganfod y gwir am bwy losgodd ei garafan yn ulw ar ddiwedd yr ail gyfres.

Mae DS Owens yn amau'n gryf bod Mathias yn cuddio rhywbeth. Ydi e'n ceisio gwarchod rhywun? Pam? Roedd hwn yn ymosodiad personol, sydd wedi dinistrio ei gartref a'i holl eiddo. Pa elyn fyddai eisiau ymosod ar y ditectif yn y fath fodd?

Bydd rhai o'r dirgelion sydd wedi codi chwilfrydedd y gwylwyr yn ystod y cyfresi blaenorol yn dod i'r lan yn y gyfres hon, a bydd rhai o'r darganfyddiadau yn siŵr o'ch synnu. Mae taith gyffrous yn aros ein gwylwyr, yn nhrydedd gyfres Y Gwyll Hinterland, yn nôl Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C.

Meddai Gwawr Martha Lloyd; "Roedd diweddglo’r gyfres ddiwethaf mor ddramatig ac mae'r gynulleidfa, fel minnau, yn awchu am ragor o straeon ac i weld beth sydd wedi digwydd i’r cymeriadau erbyn hyn a ble fyddan nhw’n mynd nesa’. Bydd y drydedd gyfres yn datgelu’r gwir am nifer o’r cymeriadau ac yn eu gwthio i’r eithaf. Bydd nifer o’r dirgelion tywyll sydd wedi bod yn llechu ers cyfres gyntaf Y Gwyll yn cael eu datrys a daw’r gwir i’r lan o’r diwedd. Ry’ ni’n sicr o gael ein cyffroi, ein rhyfeddu a'n llorio sawl gwaith yn ystod y drydedd gyfres."

Er mwyn bod ymhlith y cyntaf i weld y cyfrinachau'n cael eu dadorchuddio, gwyliwch Y Gwyll/Hinterland ar S4C o nos Sul 30 Hydref. Peidiwch â’i fethu – ewch i s4c.cymru/atgoffa i dderbyn nodyn atgoffa ar eich dyfais.

Mae cyfres newydd Y Gwyll yn goron ar dymor disglair o ddrama ar S4C, gyda dwy brif gyfres yn dychwelyd i'r sgrin ym mis Medi: Parch bob nos Sul am 9.00, a dos o Gwaith/Cartref yng nghanol yr wythnos draw yn Ysgol Porth y Glo, bob nos Fercher am 8.25. Gwyliwch y cyfresi newydd o'r dechrau ar lein ar alw ar s4c.cymru

Y digwyddiad pwysicaf ar S4C yr hydref hwn yw dangosiad cyntaf emosiynol o waith corawl newydd Syr Karl Jenkins i nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan. Mae Cantata Memoria wedi ei chomisiynu gan S4C, a'r libreto wedi ei ysgrifennu gan Mererid Hopwood, ac mi fydd yn cael ei berfformio gyntaf mewn cyngerdd gorff yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a'i dangos ar S4C y noson ganlynol ar nos Sul 9 Hydref 7.00.

Mae manylion holl raglenni S4C ar gyfer y tymor – chwaraeon, plant, diwylliant a digwyddiadau – ar gael ar s4c.cymru neu drwy ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol.

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

Mae trydedd gyfres Y Gwyll/Hinterland yn cael ei dangos gyntaf ar S4C yn yr hydref. Y partneriaid darlledu S4C a BBC Cymru, ynghyd ag all3media International, Tinopolis, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C a Chyllid Busnes Cymru sy’n cyd-ariannu’r cynhyrchiad, a’r cwmni teledu blaengar Fiction Factory yw’r cynhyrchwyr.

Mae S4C ar gael yng Nghymru ar Sky 104; Freeview 4; Virgin TV 166; Freesat 104.

Yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar Sky 134; Freesat 120; Virgin TV 166.

Mae S4C HD ar gael ar Sky a Freesat yng Nghymru ar ar draws y DU.

Yn fyw ar-lein ac ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer ac YouView.

Mae hefyd modd gwylio S4C yn fyw ledled y DU ar wefan tvcatchup.com a TVPlayer.com

Twitter @S4C

Facebook.com/s4c.cymru

Instagram: @S4C

Snapchat: S4Cymru

Gosodwch nodyn yn eich calendr s4c.cymru/atgoffa

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?