S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Myfyrwyr Gelli Aur yn hawlio teitl Fferm Ffactor

05 Rhagfyr 2016

 Wedi saith wythnos o fôn braich, profi sgiliau a gwybodaeth ym mhob agwedd o fyd amaeth, Tîm Gelli Aur yw pencampwyr Fferm Ffactor 2016 S4C. Ac mae'r triawd o Langadog wedi ennill gwyliau unwaith mewn oes i Dde America.

O’r chwe thîm gwreiddiol o ffermwyr o bob cwr o Gymru; y ddau dîm oedd yn weddill i frwydro yn y rownd derfynol oedd Tîm Gelli Aur a Thîm Moch Môn o Ynys Môn. Ond y myfyrwyr o Sir Gâr a ddaeth i'r brig mewn rownd derfynol gofiadwy a ddarlledwyd ar S4C ar nos Sadwrn, 3 Rhagfyr. Gwyliwch y rhaglen ar alw yma

Mae'r tri buddugol , Aled Davies, Carys Jones a Jack Davies oll yn 18 mlwydd oed ac yn dod o Langadog. Maen nhw i gyd yn fyfyrwyr Amaeth yng Nghampws Gelli Aur Coleg Sir Gâr, ac yn aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Llangadog.

Yn ogystal â gweithio'n galed yn y coleg, mae Jac Davies, un o aelodau'r tîm buddugol, yn godro ar y ffermdeuluol ac yn gweithio dwy swydd odro arall hefyd. Mae e wedi hen arfer a gwaith caled ac wrth ei fodd ei fod ei dîm wedi cyrraedd y brig:

“Doedden ni ddim wedi disgwyl i wneud mor dda! A bod yn onest, roedd yn dipyn o sioc i ni i gyrraedd y ffeinal ac mae hi’n gymaint o anrhydedd i ennill teitl Fferm Ffactor,” meddai Jac.

Roedd y timau fu'n cystadleuaeth eleni yn gymysgedd o deuluoedd, criwiau o ffrindiau a chriwiau o fyfyrwyr, ac roedd y gyfres hon wedi denu mwy o gystadleuwyr ifanc nag erioed o'r blaen. Er bod y tîm buddugol i gyd yn eu harddegau, mae Jac yn credu eu bod nhw wedi profi nad oedd eu hoedran yn amharu ar eu gallu i gyrraedd y brig:

“Er ein bod ni i gyd yn ifanc, mae’n profi bod pobl ifanc yn medru mynd amdani gystal â rhai hŷn mewn cystadlaethau fel hyn. Mae hefyd yn dangos bod digon o frwdfrydedd gan bobl ifanc ym maes amaethyddiaeth, a bod dyfodol disglair i’r diwydiant,” ychwanega Jac, sydd wedi cael dipyn o sylw ers bod ar y rhaglen!

“Ry’n ni wedi cael ymateb gwych gan bawb yn y coleg. ‘Ni’n teimlo’n falch iawn i fod wedi cynrycholi’r coleg a’i roi ar y map fel petai, ac mae’n deimlad braf bod y darlithwyr yn falch ohonon ni.

“Mae Aled, Carys a minnau wedi mwynhau pob eiliad o’r gystadleuaeth. Doedden ni ddim yn gwybod beth i ddisgwyl ar y dechrau, ond ry’n ni wedi cael lot fawr o sbort wrth wneud y tasgau. ‘Ni wedi bod yn ffrindiau da ers ysgol, felly ‘ni’n gweithio’n dda fel tîm.”

Ac yntau’n gyfle euraidd i flasu'r byd ffermio mewn gwlad estron, mae Tîm Gelli Aur eto i ddewis pa ardal o Dde America y maen nhw am ymweld ag ef. Bydd y gwyliau yn cael ei drefnu gan gwmni Teithiau Tango gydag yswiriant gan Undeb Amaethwyr Cymru, ac mae'r tri yn edrych ymlaen yn arw!

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?