S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mind yn canmol wythnos o raglenni ar S4C sy’n "taflu goleuni" ar broblemau iechyd meddwl

03 Mai 2017

Mae’r elusen iechyd meddwl Mind wedi canmol wythnos arbennig o raglenni ar S4C sy’n trafod ac yn annog sgwrs am iechyd meddwl.

Meddai Sara Moseley, cyfarwyddwr Mind Cymru ei bod hi'n "falch iawn" bod y sianel yn "taflu goleuni ar broblemau iechyd meddwl” fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Mae rhaglen ddogfen Matt Johnson: Iselder a Fi, sy'n cael ei darlledu nos Fercher 10 Mai am 9.30, yn dilyn y cyflwynydd Matt Johnson 34, o Gaerffili, wrth iddo fynd ar daith bersonol i ddysgu mwy am iechyd meddwl ac iselder, yn enwedig ymysg dynion ifanc. Yn y rhaglen mae Matt yn siarad yn agored am ei frwydr bersonol gydag iselder a’r amser bu bron iddo gymryd ei fywyd ei hun - cyfrinach a gadwodd yn gudd am flynyddoedd.

Nos Sadwrn 13 Mai am 9:00, cawn brofiadau un fam ifanc a’i brwydr gydag iselder wedi geni plentyn (post-natal depression). Wedi brwydro, a dod dros y salwch ar ôl genedigaeth ei merch Lleucu, roedd hi'n anodd gan Alaw Griffiths, 33, gredu bod y salwch wedi mynd yn drech na hi unwaith eto wedi geni ei hail blentyn, Morgan. Mae O’r Galon: Gyrru Drwy Storom yn bortread dewr a gonest gan fam sy'n credu'n gryf bod angen trafod y cyflwr er mwyn cael gwared â'r stigma sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl.

Mae ystadegau'n awgrymu bod yna farwolaeth o ganlyniad i hunanladdiad bron bob dydd yng Nghymru. Mewn ffilm bwerus a phersonol, Colli dad, siarad am hynna, nos Sul 14 Mai am 9:00, mae Stephen Hughes, 33, o Lanfechell, Ynys Môn yn mynd i’r afael a’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl ymysg cymunedau gwledig ac yn trafod hunanladdiad ei dad er mwyn deall pam ein bod ni'n cael trafferth siarad am 'hynna'.

Dywedodd Sara Moseley, cyfarwyddwr Mind Cymru: "Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar gymaint o bobl yng Nghymru ac mae angen i ni sicrhau bod pobl yn siarad amdanyn nhw. Beth bynnag yw eich diagnosis, mae'n bwysig gwybod bod help ar gael.

"Rydym yn hynod falch fod S4C yn taflu goleuni ar broblemau iechyd meddwl fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i'n llysgennad Matt Johnson am siarad yn agored am yr anawsterau mae e wedi eu hwynebu. Pan mae pobl gyda phroffil uchel yn siarad am eu profiadau eu hunain, rydym yn gwybod ei fod yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Gall rhannu profiadau o wellhad annog pobl i ofyn am help gyda'u problemau eu hunain ac yn gallu torri i lawr y stigma sy'n dal i amgylchynu iechyd meddwl, gan sbarduno sgyrsiau a allai byth wedi digwydd fel arall.

"Mae ymchwil Mind ei hun yn dangos bod mwy nag 1 o bob 5 o bobl* wedi dweud fod clywed person enwog yn siarad am eu profiadau eu hunain wedi eu hysbrydoli i ddechrau sgwrs gyda rhywun o'u cwmpas am iechyd meddwl. Mae hyn yn dangos pa mor hanfodol yw hi fod y rhai sy’n llygad y cyhoedd yn parhau i siarad yn agored yn y cyfryngau. Pa bynnag broblemau iechyd meddwl yr ydych yn eu hwynebu, cofiwch nad chi yw'r unig un. Rydym yn eich annog i siarad â'ch anwyliaid a gofyn am help gan eich meddyg teulu.”

Yn ogystal â’r tair rhaglen ddogfen uchod, bydd y rhaglen blant #Fi:Megan yn ein cyflwyno i Megan sy'n 15 mlwydd oed ac yn dioddef o iselder a bydd y rhaglen gylchgrawn Heno, Newyddion 9 a’r rhaglen amaeth Ffermio’n cynnwys eitemau am iechyd meddwl yn ystod yr wythnos. Hefyd, bydd ailddarllediadau o Iselder: Un Cam ar y Tro, ble mae’r cyflwynydd Owain Gwynedd yn siarad am effaith iselder ei dad ar ei deulu a Cysgod Rhyfel, ble mae pedwar cyn-filwr yn trafod eu profiadau ar faes y gad gan ddatgelu'r effeithiau seicolegol ac emosiynol, yn cwblhau arlwy’r wythnos fel rhan o Wythnos Iechyd Meddwl S4C.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C: “Mae ystadegau’n dangos y bydd un o bob pedwar o bobl yn y DU yn dioddef problem iechyd meddwl bob blwyddyn. Fel darlledwr cyhoeddus mae hi’n holl bwysig ein bod ni’n rhan o’r sgwrs am iechyd meddwl. Gobeithio y bydd y rhaglenni hyn yn helpu pobl eraill sydd wedi bod, neu yn mynd trwy sefyllfa debyg ar hyn o bryd.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi cynnal Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn yr ail wythnos mis Mai ers 2000.

* Arolwg blynyddol Populus o dros 2,000 o bobl. Ffigwr a gymerwyd o’r arolwg diweddaraf ym mis Tachwedd 2016.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?