S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cynyrchiadau S4C yn cipio medalau yng Ngwobrau Gŵyl Efrog Newydd 2017

10 Mai 2017

Mae dau o gynyrchiadau S4C wedi cipio Medalau Arian y Byd yng Ngŵyl Ryngwladol Teledu a Gwobrau Ffilm a Theledu Efrog Newydd.

Fe wnaeth y ffilm rymus Yr Ymadawiad a'r rhaglen ddogfen bwerus Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam greu argraff ar y rheithgor rhyngwladol o feirniaid.

Fe wnaeth trydydd cynhyrchiad, Aberfan: Cantata Memoria, a gynhyrchwyd gan Hefin Owen o gwmni Rondo Media, gyrraedd y rhestr fer gan dderbyn tystysgrif rownd derfynol. Yn deyrnged gerddorol a geiriol gan y cyfansoddwr Karl Jenkins a’r bardd Mererid Hopwood i’r gymuned lofaol yn ne Cymru a brofodd drychineb enbyd, roedd yn un o gerrig milltir amserlen S4C yn 2016.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees; "Gyda chynyrchiadau o 40 o wledydd o dan ystyriaeth, roedd yna gystadleuaeth gref yng Ngŵyl Gwobrau Efrog Newydd eleni, ond mae’r cynyrchiadau hyn yn profi bod Cymru ac S4C yn creu rhaglenni o'r safon ryngwladol uchaf mewn amrywiaeth eang o bynciau. Rydym yn falch ein bod wedi comisiynu’r cynyrchiadau hyn ac yn llongyfarch y cwmnïau cynhyrchu i gyd ar eu llwyddiant."

Cafodd y ddrama afaelgar Yr Ymadawiad ei chynhyrchu gan Severn Screen mewn cydweithrediad â Boom Pictures a Ffilm Cymru Wales ar gyfer S4C a bydd yn cael ei darlledu yn y dyfodol agos ar y sianel.

Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan Kate Crowther ac Ed Talfan, ac Ed wnaeth hefyd ysgrifennu’r sgript. Cafodd ei chyfarwyddo gan Gareth Bryn a’i ffilmio ar leoliad yn Llanddeusant a Llyn Brianne, Sir Gaerfyrddin. Ma Ed yn un o gyd-grewyr y gyfres dditectif Y Gwyll / Hinterland.

Mark Lewis Jones sy’n portreadu’r dyn unig Stanley ac Annes Elwy a Dyfan Dwyfor yw’r cariadon. Pan mae cwpl ifanc ar ffo, Sara ac Iwan, yn cael damwain car, dyn lleol Stanley sy’n eu hachub o nant ger ei ffermdy anghysbell. Ond mae’r cyfarfyddiad yn arwain at ganlyniadau annisgwyl i'r tri ohonynt.

Mae'r rhaglen ddogfen drawiadol Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam yn bwrw cipolwg difyr ar fywyd a chyfraniad y ffotograffydd o Ruddlan, Gogledd Cymru, a oedd yn arloeswr ym maes ffoto-newyddiaduraeth.

Yn cael ei chyflwyno gan newyddiadurwr y BBC Wyre Davies a’i chynhyrchu gan Caryl Ebenezer a Luned Phillips, mae’r rhaglen yn gyd-gynhyrchiad rhwng Rondo Media a chwmni cynhyrchu De Corea, JTV, Jeonju Television. Mae'r ddogfen yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai o'r bobl a oedd agosaf ato; teulu a ffrindiau a chydweithwyr, gan gynnwys John Pilger, Don McCullin a'r Athro Noam Chomsky.

Yn ddiweddar fe wnaeth y rhaglen ddogfen ennill gwobr fawreddog yn Los Angeles, gwobr Hollywood International Independent Documentary Award am y ffilm ddogfen dramor orau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?