S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Agor cystadleuaeth Cân i Gymru: gwobr £5,000 a lleoliad y gystadleuaeth yn Pontio, Bangor.

09 Tachwedd 2017

Mae cystadleuaeth Cân i Gymru 2018 yn cael ei hagor yn swyddogol heddiw, ddydd Iau 9 Tachwedd 2017.

Mae S4C yn gwahodd cyfansoddwyr i gynnig eu caneuon am gyfle i ennill gwobr o £5,000. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 5 Ionawr 2018. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar s4c.cymru

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar 1 Mawrth 2018 yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.

I nodi agor y gystadleuaeth, bydd rhaglen Heno yn darlledu'n fyw o ganolfan Pontio, Bangor nos Iau, 9 Tachwedd, lle bydd Cadi Edwards, enillydd y gystadleuaeth y llynedd, yn sgwrsio gyda’r criw. Bydd mur allanol Pontio hefyd yn cael ei oleuo gyda logo Cân i Gymru.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, y gwylwyr yn unig fydd yn dewis enillydd Cân i Gymru drwy bleidlais ffôn.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, "Rydym yn edrych ymlaen at gystadleuaeth gyffrous arall, ac yn gobeithio bydd llawer yn cystadlu eto eleni. Mae'n wych bod y gystadleuaeth am gael ei chynnal ar y cyntaf o Fawrth. Pa ffordd well o ddathlu Gwlad y Gân ar Ddydd Gŵyl Dewi na gyda noson o adloniant bywiog a chaneuon newydd sbon yn yr iaith Gymraeg?

"Yn ogystal â phrif wobr o £5,000, mae cymryd rhan ynddo ei hun yn gyfle i gerddorion a chyfansoddwyr recordio eu cân yn broffesiynol a'u rhyddhau ar gyfer lawrlwytho a'u clywed ar donfeddi radio am flynyddoedd i ddod."

Os ydych chi am gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2018, mae'r telerau a'r rheolau ar gael yn llawn ar wefan s4c.cymru.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?