S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Arian byw o ffilm hyrwyddo yn blasu llwyddiant Ewropeaidd

31 Mai 2017

Mae’r cogydd disglair Bryn Williams wedi hen arfer â blasu llwyddiant - ond y tro hwn ffilm hyrwyddo fer ar gyfer ei gyfres ar S4C, sydd wedi ennill gwobr deledu bwysig.

Trelar hyrwyddo am bumed gyfres Cegin Bryn sydd wedi ennill gwobr arian i’r sianel deledu S4C mewn cystadleuaeth ryngwladol.

Y Swyddog Cyfathrebu Huw Derfel cynhyrchodd y ffilm hyrwyddo a greodd argraff fawr ar feirniad y Gwobrau EBU Eurovision Connect a gynhaliwyd yn ddiweddar ym mhrifddinas Slofenia, Ljubljana.

Cafodd y ffilm hyrwyddo ei chynhyrchu y llynedd ar gyfer y gyfres Cegin Bryn: Tir a Môr, ac fe ddaeth yn ail yn y Categori Syniad Cysyniadol Gorau ar Gyllideb Isel.

Mae'r promo yn cynnwys y gân 'Y Pren ar y Bryn' a berfformir gan y canwr gwerin eiconig, Dafydd Iwan, gan ddefnyddio delweddau penodol o'r gyfres i gyd-fynd â geiriau’r gân.

"Cawsom lawer o hwyl yn cynhyrchu’r promo ysgafn yma, ac roeddem yn gallu manteisio ar y ffaith bod y gair 'Bryn' yn ymddangos nifer o weithiau yn y gân," meddai Huw. "Roedd ansawdd y rhaglen a'r golygfeydd trawiadol ynddi’n gwneud ein gwaith ni’n llawer yn haws."

Mae Huw, 46 oed, a gafodd ei fagu yng Nghaernarfon ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn falch iawn o dderbyn y wobr.

Ychwanegodd, "Rhaid i mi ddiolch i'r tîm cyfan yn Adran Gyfathrebu S4C, yn enwedig ein deuawd golygu deinamig, Simon Roberts a Neil Sinclair, am eu cyfraniad amhrisiadwy."

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C Gwyn Williams, "Llongyfarchiadau i Huw a'r tîm am ennill gwobr mor bwysig. Mae'n adlewyrchu ansawdd y gwaith hyrwyddo y mae S4C yn ei chynhyrchu ar bob llwyfan digidol."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?