S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Yn y bore mae dal hi! Tonga v Cymru YN FYW ar S4C

02 Mehefin 2017

Bydd gêm taith haf tîm rygbi Cymru yn erbyn Tonga ar gael YN FYW ar S4C.

Ond, mi fydd angen codi’n fore, achos mi fydd y gêm, sy’n cael ei chwarae yn stadiwm eiconig Eden Park, Auckland, Seland Newydd, yn cael ei dangos am 6.15 ar fore Gwener, 16 Mehefin.

Os na fyddwch chi'n llwyddo i weld y gêm yn fyw, mi fydd uchafbwyntiau estynedig ar gael gyda'r nos, am 6.05 yr hwyr, yr un diwrnod.

Gareth Rhys Owen fydd yn cyflwyno’r rhaglen yng nghwmni’r cyn glo Cymru, Andrew Coombs, gyda Cennydd Davies a chyn capten Cymru Gwyn Jones yn y blwch sylwebu. BBC Cymru fydd yn cynhyrchu’r darllediadau.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru, ac ar Sky, Freesat a Virgin Media ar draws y Deyrnas Unedig. Mae gwasanaeth HD i’w gael ar lwyfannau Sky a Freesat.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?