S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

A-we â ni! Gemau ar-lein a gemau nos Wener ar Sgorio y tymor nesaf

23 Mehefin 2017

Mae Sgorio wedi cadarnhau pa gemau Uwch Gynghrair Cymru fydd yn cael eu dangos yn fyw yn ystod cyfnod cynnar tymor 2016/17 yn ogystal â rhai gemau gaiff eu dangos ar-lein yn unig.

Mae’r 10 gêm gyntaf, fydd yn cael eu dangos rhwng dechrau’r tymor a diwedd mis Medi, wedi cael eu dewis ar y cyd gan Sgorio, S4C a Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CPDC). Mi fydd gemau o wahanol gystadlaethau yn cael eu darlledu a byddant ar gael ar amrywiaeth o blatfformau.

Yn ystod cyfnod cyntaf y tymor mi fydd Sgorio yn arbrofi gyda gemau byw ar S4C ar nos Wener, ddydd Sadwrn a Sul, yn ogystal â darllediadau ar y we ar nosweithiau Iau.

Bydd tymor Sgorio yn dechrau ddydd Sul, 13 Awst gyda thrip i Barc Jenner pan fydd y newydd-ddyfodiaid, Y Barri yn herio Aberystwyth yn eu gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru ers 13 mlynedd. Y dydd Sadwrn canlynol, 19 Awst bydd y pencampwyr, Y Seintiau Newydd yn croesawu’r Bala i Neuadd y Parc yn fyw ar S4C.

Wythnos yn ddiweddarach, ar 25 Awst, bydd Bangor a Phrestatyn yn creu hanes gyda'r darllediad byw cyntaf ar S4C o gêm Uwch Gynghrair Cymru ar Nos Wener. Bydd y sylw’n cael ei droi at y gemau rhyngwladol ar ddechrau mis Medi, wrth i Gymru herio Awstria ar ddydd Sadwrn, 2 Medi cyn teithio i Foldofa ar nos Fawrth, 5 Medi – bydd y ddwy gêm yn fyw ar S4C.

Rhwng y ddwy gêm ryngwladol mi fyddwn ni’n darlledu gêm fyw o Gwpan Her Irn-Bru ar S4C gyda’r Seintiau Newydd a Chei Connah yn ymuno â’r gystadleuaeth yn ail rownd ar ddydd Sul, 3 Medi.

Ar nos Iau, 7 Medi bydd cyfle i wylio Llandudno v Prestatyn yn fyw o Barc Maesdu ar ein gwefan neu ar Facebook Live. Bydd y gêm rhwng Y Barri a Chaerfyrddin hefyd ar gael i’w gwylio ar y we ar nos Iau, 21 Medi. Deuddydd yn ddiweddarach mi fyddwn ni’n fyw o Goedlan y Parc ar gyfer y frwydr rhwng Aberystwyth a Bangor.

Gemau byw Sgorio:

13/08 – Y Barri v Aberystwyth (17:15) – S4C

19/08 – YSN v Y Bala (17:15) – S4C

25/08 – Bangor v Prestatyn (19:30) – S4C

02/09 – Cymru v Awstria (19:45) – S4C

03/09 – 2il rownd Cwpan Her Irn-Bru – S4C

05/09 – Moldofa v Cymru (19:45) – S4C

07/09 – Llandudno v Prestatyn (19:45) – y we

21/09 – Y Barri v Caerfyrddin (19:45) – y we

23/09 – Aberystwyth v Bangor (17:15) – S4C

30/09 – Gêm i’w chadarnhau

06/10 – Georgia v Cymru (17:00) – S4C

09/10 – Cymru v Gweriniaeth Iwerddon (19:45) – S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?