S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tair drama i danio'r dychymyg - yn dechrau gyda Bang...

10 Awst 2017

• Cyflwyno tair cyfres ddrama newydd sbon S4C: Bang; Un Bore Mercher; Craith

• Cyfresi fydd yn arwain amserlen y sianel o fis Medi ymlaen ac yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn.

Stori drosedd am waed, cariad a pherthynas teulu yn nhref ddiwydiannol Port Talbot sy'n dechrau tymor o ddramâu newydd sbon ar S4C.

Bydd Bang yn dechrau ar nos Sul 10 Medi, gyda dwy gyfres arall - Un Bore Mercher a Craith - yn llenwi'r sgrin hyd wanwyn 2018.

Stori brawd, chwaer a gwn sydd wrth galon Bang, sy'n gynhyrchiad gan gwmni Joio ac wedi ei hysgrifennu gan y sgriptiwr dawnus Roger Williams (Tir, Galesa, Gwaith Cartref). Mae Sam (Jacob Ifan; Cuffs) yn ŵr ifanc di ymhongar a thawel, ond daw tro ar fyd pan mae'n cael gafael ar wn ac yn dechrau torri'r gyfraith. Mae ei chwaer Gina (Catrin Stewart; Y Llyfrgell) yn blismones uchelgeisiol, ac yn benderfynol o ddod o hyd i berchennog y gwn. Yn gefndir i'r saga deuluol, mae ymchwiliad i lofruddiaeth brawychus gŵr busnes lleol yn codi cwestiynau am lofruddiaeth tad Sam a Gina pan roedden nhw yn blant bach.

Mae'r gyfres wedi ei gosod a'i gwreiddio'n ddwfn yng nghymuned Port Talbot a Chwm Afan, ac mae Bang yn torri tir newydd ar S4C ble bydd y defnydd achlysurol o'r Saesneg yn y deialog yn adlewyrchu agweddau o'r gymdeithas honno.

Ym mis Tachwedd, byddwn yn gadael cymuned ddiwydiannol Port Talbot ac yn cael ein tywys i dref tawel a thlws yn Sir Gâr yn y gyfres Un Bore Mercher. Dyma gartref Faith (Eve Myles; Torchwood); cyfreithwraig wrth ei gwaith, a mam a gwraig ddefosiynol. Perthynas gwr a gwraig yw canolbwynt y gyfres hon, a thaith ddewr a pheryglus Faith i ganfod y gwir am ei phartner wedi iddo ddiflannu yn ddirybudd ar un fore Mercher.

Yna, fe awn i Eryri, lleoliad trawiadol y gyfres Craith, fydd ar y sgrin ym mis Ionawr 2018. Pan mae corff merch ifanc yn cael ei ddarganfod mewn llecyn prydferth, mae'n arwain DI Cadi John (Sian Reese-Williams; 35 Diwrnod) ar drywydd dirgelwch sy'n newid ei bywyd am byth.

Roedd y cyfle cyntaf i gael cip ar y tair drama, a chlywed aelodau o'r cast a'r tîm cynhyrchu yn trafod y straeon, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn heddiw, prynhawn Iau 10 Awst.

Yn rhan o'r digwyddiad i drafod y dramâu roedd yr actor Jacob Ifanc ac awdur Bang Roger Williams, yr actores Hannah Daniel o Un Bore Mercher, a chynhyrchydd Craith Hannah Thomas a'r actores Lois Meleri Jones.

"Rydym yn falch iawn o gyflwyno'r tair drama newydd, tair stori wreiddiol fydd yn gafael yn y gwylwyr gydol yr hydref a'r gaeaf," meddai Gethin Scourfield, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C, sydd wedi cymryd yr awenau dros dro tra bod Gwawr Martha Lloyd ar gyfnod mamolaeth.

"Bydd y tair cyfres yn mynd a ni i wahanol rannau o'r wlad, i gymdeithasau tra gwahanol, i gwmni cymeriadau o bob cefndir, gyda straeon cryf a chyffrous fydd hefyd yn cyffwrdd a’r galon."

Mae S4C yn cydweithio â phartneriaid er mwyn cynhyrchu'r dramâu. Mae Un Bore Mercher a Craith yn gyd-gomisiwn gyda BBC Cymru, gyda fersiynau yn cael eu creu'r un pryd er mwyn darlledu ar BBC One Wales (Keeping Faith a Hidden) yn nes ymlaen. Mae dosbarthwyr byd-eang All3Media International yn gyfrifol am werthu Craith yn rhyngwladol, cwmni APC yn dosbarthu Un Bore Mercher a bydd cwmni dosbarthu Banijay Rights yn cynnig Bang i ddarlledwyr rhyngwladol.

Dramâu newydd yr hydref a'r gaeaf ar S4C:

Bang

Nos Sul 10 Medi 2017

Stori brawd, chwaer a gwn sydd wrth galon Bang. Mae Sam (Jacob Ifan; Cuffs) yn ŵr ifanc di ymhongar a thawel, ond daw tro ar fyd pan mae'n cael gafael ar wn ac yn dechrau torri'r gyfraith. Mae ei chwaer Gina (Catrin Stewart; Y Llyfrgell) yn blismones uchelgeisiol, ac yn benderfynol o ddod o hyd i berchennog y gwn. Yn gefndir i'r saga deuluol, mae ymchwiliad i lofruddiaeth brawychus gŵr busnes lleol yn codi cwestiynau am lofruddiaeth tad Sam a Gina pan roedden nhw yn blant bach.

Ymhlith y cast mae: Jacob Ifan (Cuffs), Catrin Stewart (Y Llyfrgell/The Library Suicides, Doctor Who, Stella), Gillian Ellisa (Billy Elliot, Alys, Pobol y Cwm), Gareth Jewell (Gwaith Cartref, Baker Boys), Nia Roberts (Y Gwyll/Hinterland, Patagonia)

Cynhyrchiad Joio; Roger Williams, Catrin Lewis Defis; mewn cyd-weithrediad â Artists Studio.

Dosbarthwyr: Banijay Rights

Un Bore Mercher

Tachwedd 2017

Eve Myles sy'n chwarae'r brif rôl yn y ddrama ddirgelwch am berthynas rhwng gŵr a gwraig, wedi ei gosod yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r stori'n adrodd hanes Faith (Eve Myles) cyfreithiwr, gwraig a mam, a'i brwydr i fynd at wraidd diflaniad sydyn ac annisgwyl ei gŵr. Daw i ddarganfod fod y dref hardd, sy'n hafan ddelfrydol iddi hi a'i theulu, hefyd yn gwarchod cyfrinachau tywyll sy'n fygythiad i'w dyfodol. Ar drywydd y gwir, mae Faith yn newid byd. Mae hi'n camu o'i bodolaeth gyfforddus, fel mam a gwraig ddefosiynol, ac yn troi'n dditectif digyfaddawd. Am y tro cyntaf, mae hi'n fodlon wynebu perygl a chymryd risg a brwydro er mwyn ei theulu i ddarganfod y gwir.

Cafodd y gyfres ei datblygu gan S4C ac mae'n gyd-gomisiwn gyda BBC Cymru. Bydd yn cael ei darlledu yn y Gymraeg yn gyntaf ar S4C ym mis Tachwedd 2017, ac yna fersiwn Saesneg Keeping Faith ar BBC One Wales yn 2018.

Ymhlith y cast mae; Eve Myles, Matthew Gravelle (35 Diwrnod, Y Gwyll/Hinterland, Broadchurch), Mali Harries (Y Gwyll/Hinterland), Mark Lewis Jones (Byw Celwydd, Stella, National Treasure) ac Aneirin Hughes (Y Gwyll/Hinterland, Pobol y Cwm).

Cynhyrchiad Vox Pictures; Pip Broughton a Nora Ostler

Crëwyd gan Matthew Hall

Dosbarthwyr: APC

Craith

Ionawr 2018

Mae'r ddrama hon wedi ei lleoli yn y gogledd orllewin, o amgylch dinas Bangor a llethrau trawiadol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r gyfres yn adrodd hanes ditectif DI Cadi John (Sian Reese-Williams) sy'n dychwelyd i ogledd Cymru i ofalu am ei thad sy'n wael ei iechyd. Fodd bynnag, pan mae corff dynes ifanc yn cael ei ddarganfod mewn afon anghysbell, mae byd Cadi - a'r byd o'i chwmpas - yn cael ei newid am byth.

Bydd yn cael ei darlledu’n gyntaf ar S4C yn gynnar yn 2018 fel Craith. Bydd fersiwn ddwyieithog, Hidden yn dilyn yn ddiweddarach ar BBC One Wales.

Ymhlith y cast mae Sian Reese-Williams (35 Diwrnod, Y Gwyll/Hinterland, Requiem), Rhodri Meilir (Byw Celwydd, Pride), Gwyneth Keyworth (Wasted) a Sion Alun Davies (Endeavour, Y Gwyll/Hinterland).

Cynhyrchiad Severn Screen

Crëwyd gan Mark Andrew ac Ed Talfan

Awduron: Caryl Lewis, Jeff Murphy, James Rourke

Cynhyrchydd: Hannah Thomas

Dosbarthwyr: All3Media International

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?