S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dyn o Wynedd am ymuno â’r Wal Goch yn erbyn Awstria ar ôl ennill cystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol S4C

31 Awst 2017

Gyda dyddiau yn unig i fynd cyn gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Awstria, mae un cefnogwr pêl-droed lwcus o Lanrug yn ymuno â’r Wal Goch ar ôl ennill cystadleuaeth cyfyngau cymdeithasol S4C.

Ym mis Mehefin fe wnaeth S4C gynnal cystadleuaeth ar ei thudalen S4C Chwaraeon Facebook lle roedd cystadleuwyr yn cael nodi ‘hoffi’ i gael ennill pâr o docynnau at gyfer y gêm fawr ar 2 Medi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

O blith 700 cystadleuydd, Emyr Jones o Lanrug, sy’n werthwr ceir, gafodd ei ddewis ar hap, ac mae’r enillydd lwcus yn gwybod pwy fydd yn mynd i’r gêm hefo fo.

Dywedodd Emyr, 31 oed: “Dw i ddim fel arfer yn trio cystadlaethau y dyddiau yma, achos dw i erioed wedi cael fawr o lwc. Ond fe wnaeth fy nghariad drio a dweud wrtha i i drio hefyd - a dw i wedi landio yn ennill. Bydd yn rhaid imi fynd â nghariad hefo fi rŵan!

“Rydan ni’n edrych ymlaen yn ofnadwy at y gêm. Fe fydd hi’n llawn jôc yno a bydd yr awyrgylch yn arbennig. Buaswn i fel arall wedi gwylio’r gêm mewn tafarn, ond mae hyn yn well o lawer!”

Bydd y rhai ohonoch nad oedd yn ddigon lwcus i ennill y wobr yn gallu gwylio’r cyfan yn fwy ar S4C gan fod holl gemau am weddill yr ymgyrch yn fyw ar y sianel. Ar ôl perfformiadau gwych yn Euro 2016 y llynedd, mae Emyr yn dal yn obeithiol y gall tîm Chris Coleman gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia haf nesaf.

Ychwanegodd: “Mae gennym un neu ddwy gêm haws ar ôl gem Awstria, felly os gallwn ennill y gêm hon, dwi’n dal yn meddwl y gallwn gyrraedd Rwsia. Os gallwn gymryd ein pwyll a chwarae fel y gwnaethon ni yn yr Ewros, mae gennym ni bob gobaith.”

 

Bydd Cymru v Awstria yn fyw ar S4C o 7.15 nos Sadwrn, 2 Medi. Dylan Ebenezer sy’n cyflwyno, hefo Nic Parri a Malcolm Allen yn sylwebu a Nicky John ar ochr y cae.

A bydd gêm nesaf Cymru oddi cartref yn erbyn Moldofa ar nos Fawrth 5 Medi hefyd yn fyw ar S4C, yn dechrau am 7.15. Bydd y ddwy gêm ar gael i'w gwylio eto ar s4c.cymru am saith niwrnod wedi'r chwiban olaf.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?