S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hansh yn denu miliwn

21 Awst 2017

  Mae gwasanaeth cynnwys ffurf fer arlein S4C wedi cyrraedd carreg filltir nodedig ychydig dros ddeufis ers ei lansio.

Mae cynnwys fideo'r llwyfan Hansh wedi cael ei wylio dros filiwn o weithiau ers i’r gwasanaeth ddechrau ar 11 Mehefin eleni.

Mae’r fideos, sy’n cael eu cynhyrchu ar gyfer cyhoeddi ar rwydweithiau cymdeithasol yn gyntaf, yn cynnwys comedi, cerddoriaeth a chymeriadau difyr ac mae natur y gwasanaeth yn golygu bod darn newydd o gynnwys yn ymddangos bron yn ddyddiol.

Dydd Mawrth, 22 Awst, bydd cyfres newydd sbon Tân a Mwg – sef eitemau coginio ar farbeciw gyda’r blogiwr bwyd Chris 'Foodgasm' Roberts yn rhai o leoliadau mwyaf prydferth Cymru – yn siŵr o dynnu dŵr o’r dannedd ac yn ychwanegiad blasus arall i'r gwasanaeth.

Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C: “Mae’r ffigyrau gwylio ac ymgysylltu ar gyfer deufis cyntaf gwasanaeth Hansh yn galonogol iawn. Mae’n dangos bod modd cyrraedd cynulleidfaoedd newydd Cymraeg drwy lwyfannau cymdeithasol.

“Rydym wedi'n cyffroi wrth edrych ymlaen at weld cnwd newydd o gynnwys gan amrywiaeth eang o leisiau ar y ffordd i Hansh ar ôl rownd gomisiynu ddiweddar. Bydd y rhain yn ehangu apêl y gwasanaeth ymhellach, ac adeiladu ar sail y dalent sydd eisoes wedi profi’n boblogaidd.”

Ymysg y cynnwys mwyaf poblogaidd ar y gwasanaeth ar hyn o bryd mae fideos Bry, y cymeriad di-flewyn ar dafod o orllewin Cymru; caneuon doniol y ddeuawd brith HyWelsh, sef Hywel Pitts a’r Welsh Whisperer; cyfweliadau lletchwith Gareth yr epa sinsir gyda cherddorion amlwg; canllaw tra gwahanol Esyllt Ethni-Jones i leoedd Cymru; a’r bwystfil bwyta o Abertawe, Sgrameer.

Er bod Hansh yn gynnwys sydd wedi ei greu i fod yn ddigidol yn gyntaf, mae hefyd yn cael ei becynnu a’i guradu ar ffurf rhaglen wythnosol ar sianel deledu S4C os ydych chi am wylio’r cynnwys ar sgrin fwy. Bydd y gyfres newydd o Hansh ar y teledu yn dechrau 7 Medi ar S4C.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?