S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwylio Cymdeithasol S4C yn taro tair miliwn

18 Medi 2017

Mae ffigyrau gwylio cynnwys cyfryngau cymdeithasol S4C wedi cyrraedd tair miliwn y mis - llai na blwyddyn ers pasio’r ddwy filiwn.

Dwy flynedd yn ôl, ym Medi 2015 roedd cynnwys S4C ar Facebook, Youtube a Twitter yn cael ei wylio 40,000 o weithiau y mis.

Ond mis Medi diwethaf, fe gafodd cynnwys digidol S4C ei wylio dros filiwn o weithiau am y tro cyntaf – yna mis Rhagfyr 2016 fe gafodd ei gwylio dros ddwy filiwn o weithiau ac nawr mae wedi cyrraedd tair miliwn.

Ers sefydlu ffordd newydd o gyhoeddi a mesur deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol ym mis Hydref 2015, mae'r niferoedd gwylio fideo ar Twitter, Facebook ac YouTube wedi bod yn raddol gynyddu.

Dywedodd Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C; "Mae'r cynnydd rhyfeddol yma’n dod yn sgil ein strategaeth o weithio gyda chyflenwyr S4C i gynyddu’r cynnwys sydd ar gael ar-lein. Mae hyn yn amrywio o Heno i Sgorio, o Newyddion 9 i Hansh - ein gwasanaeth ffurf fer newydd. Rydym nawr yn mesur union niferoedd gwylwyr ar y llwyfannau yma i gyd, ac yn amlwg mae pobl yn hoffi pori a phrofi amrywiaeth helaeth o gynnwys.

"Mis diwethaf cyhoeddwyd fod gwasanaeth Hansh wedi ei wylio dros filiwn o weithiau o fewn deufis i’w sefydlu, ac o fewn y bythefnos ddiwethaf, mae rysáit “Kofta Kebab” Chris “Foodgasm” Roberts wedi ei wylio dros 120,000 o weithiau. Melys moes mwy mae’n amlwg. "

Nodiadau

Awst-17 Gwylio

Facebook 2,702,182 85%

Twitter 220,943 7%

YouTube 264,003 8%

Cyfanswm 3,187,128

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?