S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dathlu'r chwedlau sydd gan bawb i'w rhannu

17 Hydref 2017

Dan faner Chwedlau, ym mis Tachwedd, bydd S4C yn dathlu'r traddodiad o ddweud a rhannu stori.

Yn cyd-fynd â'r Flwyddyn Chwedlau, sy'n cael ei hyrwyddo gan Croeso Cymru eleni, bydd amserlen y mis yn cynnwys casgliad o raglenni sy'n gymysgedd o'r hynafol a'r cyfoes.

Mae'r mis yn dechrau gyda rhannu chwedlau newydd sbon, wedi eu hadrodd gan bobl o bob cwr o'r wlad yn y prosiect Chwedloni. Ar 1 Tachwedd bydd dros hanner cant o straeon gan y cyhoedd yn cael eu rhyddhau ar-lein, ar ffurf ffilmiau byrion, fydd hefyd yn cael eu dangos ar S4C yn ystod y mis.

Dyma lwyfan ar gyfer straeon ar bob pwnc o dan haul. Hanesion am gyd-ddigwyddiadau rhyfeddol, profiadau bythgofiadwy a champau anhygoel; cymysgedd o straeon teuluol wedi eu rhannu o un genhedlaeth i'r llall, a digwyddiadau mor ddiweddar â'r wythnos ddiwetha'.

"Mae chwedl yn rhywbeth byw a chyfoes sy'n perthyn i ni gyd. Dyma ry' ni am ei ddathlu ar S4C yn ein mis Chwedlau ac yn annog pobl i rannu eu chwedlau nhw, achos dyw chwedl ddim yn chwedl heb ei rhannu," meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C.

"Gyda'r gaeaf yn cau amdanom, a'r nos yn dod ynghynt bob dydd, mae'n amser perffaith i oedi, cau'r llenni a rhannu stori gyda'n gilydd. Mae prosiect Chwedloni yn gosod straeon pobl yng nghanol y dathliadau, yn gymysg gyda'r rhaglenni sy'n dathlu straeon hynafol a phobl sydd yn haeddu'r teitl 'chwedlonol' ei hunain. Byddwn yn dathlu cymeriadau cofiadwy Pobol y Cwm, brenin y maes rygbi, a hanesion am gŵn dewr sydd o bosib yn haeddu teitl 'y Gelert go iawn'! Ynghyd a dehongliadau trawiadol a chyfoes o rai o'n chwedlau traddodiadol; Rhys a Meinir, Gelert a phedair cainc y Mabinogi drwy lygaid cymeriadau Stwnsh."

Bydd y gyfres gylchgrawn Heno yn treulio'r mis yn chwilio am y ci dewraf yng Nghymru ac yn rhannu hanesion am gŵn dewr, ffyddlon ac arwrol o bob cwr o Gymru. Byddan nhw'n galw ar y cyhoedd i rannu straeon am eu hanifeiliaid anwes anhygoel a'u dathlu gyda phawb yn ystod mis Chwedlau. Byddwn yn clywed am gŵn achub dewr, cŵn sydd yn gofalu am ei berchennog, neu cŵn sydd wedi goroesi sefyllfaoedd neu gyflawni campau go anghyffredin.

O'r cyfoes i'r hynafol. Mae chwedl drasig Rhys a Meinir, y cariadon o Nant Gwrtheyrn, wedi cyfareddu'r cyfansoddwr Ciran Ciaran ers ei blentyndod. Dyma destun ei waith clasurol a berfformiwyd gan Gerddorfa BBC Cymru ac sydd nawr wedi ei hail-addasu ar gyfer darllediad teledu unigryw sy'n cyfuno cerddorfa, animeiddio a dawn adrodd stori'r actor Rhys Ifans.

Byddwn yn cofio rhai o'r cymeriadau sydd wedi llunio a llywio hanes yr opera sebon Pobol y Cwm, yn y rhaglen Cewri Cwmderi. Ar daith drwy'r archif, byddwn yn talu teyrnged i'r cymeriadau cryf a chofiadwy sydd wedi cyffwrdd â'n calonnau.

Ym maes chwaraeon, byddwn yn dathlu chwaraewr chwedlonol ar y maes rygbi ar achlysur pen-blwydd Syr Gareth Edwards yn 70. Ac mi fydd Clwb Rygbi Rhyngwladol, yn cyd-fynd â gemau tymor yr hydref, yn cynnal pleidlais i ddewis cais chwedlonol o bob degawd, o'r 60au hyd heddiw.

Yng nghwmni cyflwynwyr gwirion a direidus Stwnsh. Bydd MabinOgi Ogi yn cyflwyno'r clasuron y Pedair Cainc fel na'u gwelwyd nhw erioed o'r blaen!

A bydd rhagor o'n chwedlau traddodiadol yn cael eu dathlu mewn dwy ffilm arbennig. Mae Beddgelert yn gynhyrchiad newydd sy'n dweud stori Gelert ar ffilm am y tro cyntaf. Wrth arbrofi gyda iaith hynafol, mae’r awdur Medeni Griffiths, wedi dod a’r hanes drasig yn fyw. Ac mae'r ffilm hudolus Llais y Lli yn cyfuno animeiddiad trawiadol ac alawon swynol i adrodd stori sy'n addas ar gyfer teulu cyfan. Daw'r ffilm wreiddiol Song of the Sea o'r Iwerddon, ac fe'i henwebwyd am wobr Oscar.

Mi fydd yn fis cyfan o ddathliadau sy'n dangos fod y traddodiad llafar yn fyw o hyd. Wedi'r cwbl, dyw chwedl ddim yn chwedl heb ei rhannu.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?