S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfres ddrama S4C ar gael fel bocs set ar-lein am y tro cyntaf

27 Hydref 2017

Wrth i Bang, drama drosedd dwyieithog S4C dynnu at ei therfyn, bydd y rhai sydd wedi methu’r gyfres yn cael ail gyfle i’w wylio.

Ar ôl darlledu'r bennod olaf nos Sul 29 Hydref, bydd pob pennod ar gael i’w wylio yn rhad ac am ddim ar wasanaeth ar alw S4C, s4c.cymru, ac ar BBC iPlayer - y tro cyntaf erioed i gyfres ddrama S4C fod ar gael i’w gwylio fel set bocs ar-lein.

Cynhyrchir y ddrama gan gwmni cynhyrchu Joio ac Artists Studio ar gyfer S4C ac mae hi wedi cael ei hysgrifennu gan yr awdur Roger Williams sydd hefyd yn gyfrifol am greu’r gyfres ddrama Gwaith Cartref. Mae'n dilyn stori dyn ifanc, Sam, sy’n gweld ei fywyd yn newid yn llwyr pan mae’n cael gafael ar wn. Mae ei chwaer, Gina, yn blismones uchelgeisiol sy'n ceisio dod o hyd i berchennog yr arf.

Mae’r gyfres wyth rhan wedi ei lleoli a'i gwreiddio'n ddwfn yng nghymuned Port Talbot a Chwm Afan ac fe’i cyfarwyddwyd gan Philip John (The Halcyon, Outlander, Downton Abbey) ac Ashley Way (Ice, Ripper Street, Stella, Y Streic a Fi) a’i chynhyrchu gan Catrin Lewis Defis (The Collection, Broadchurch).

Mae’r darlledwr o Sweden, SVT, wedi prynu’r hawliau i ddarlledu Bang ac fe gafodd y gyfres ei harddangos i ddarlledwyr o bob cwr o'r byd yn sioe fasnach flynyddol MIPCOM yn ne Ffrainc yn ddiweddar.

Meddai Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Bang yw'r gyfres berffaith i gael ei ryddhau fel bocs cyntaf y sianel. Mae hi’n ddrama drosedd bwerus sydd eisoes wedi perfformio'n eithriadol o dda ar alw ac mae wedi dal dychymyg cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Mae sicrhau bod pob pennod ar gael ar-lein am gyfnod hirach fel y gall ein gwylwyr ei wylio yn eu hamser eu hunain yn gwneud synnwyr perffaith. Mewn amgylchedd darlledu ble mae hi’n normal gwylio cyfresi cyfan ar unwaith, mae hyn yn newyddion gwych nid yn unig i S4C ond hefyd i'r gwylwyr.”

Meddai Roger Williams, awdur ac uwch-gynhyrchydd y gyfres ar gyfer Joio: “Mae stori Sam a Gina wedi gafael yn nychymyg cynulleidfaoedd. Wrth i Bang gael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C, roedd hi’n gyffredin iawn clywed pobl yn dweud nad oedden nhw eisiau aros wythnos i ddarganfod beth sy’n digwydd nesaf. Nawr, bydd pobl yn gallu gwylio’r wyth bennod yn syth ar ôl ei gilydd. Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu helpu rhoi Bang ar-lein yn hirach."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?