S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dwy gêm bêl-droed Cymru dan 21 oed yn fyw ar S4C

27 Hydref 2017

Bydd tîm Dan 21 Cymru yn parhau â'u hymgyrch rhagbrofol UEFA Ewro 2019 yn erbyn Bosnia a Herzagovina a Rwmania y mis nesaf a bydd y ddwy gêm yn cael eu dangos yn fyw ar S4C.

Mae dwy fuddugoliaeth oddi cartref o’r tair gêm agoriadol wedi rhoi sylfaen cadarn i dîm Robert Page yn eu hymgyrch i ennill lle ym Mhencampwriaeth Ewrop Dan 21 UEFA 2019, sy’n cael ei gynnal yn Yr Eidal a San Marino.

Nesaf i Gymru mae dwy gêm o fewn pedwar diwrnod a fydd yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Bangor.

Ar Nos Wener, 10 Tachwedd, bydd Cymru'n herio Bosnia a Herzegovina cyn iddyn nhw groesawu arweinwyr Grŵp Wyth, Rwmania i Fangor ar Nos Fawrth, 14 Tachwedd. Bydd y rhaglenni yn cychwyn am 5.45, gyda chiciau cyntaf y ddwy gêm am 6.00.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?